Dathlwch Wythnos Dysgwyr sy’n Oedolion gyda Grŵp Colegau NPTC

Ni fu erioed amser gwell i oedolion gamu’n ôl i addysg. P’un a ydych chi’n dymuno ailsgilio, newid cyfeiriad neu symud ymlaen yn eich gyrfa, mae yna gwrs i bawb.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn gweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel ar draws Castell-nedd Port Talbot a Phowys, i ddarparu dysgu yng nghalon eich cymuned. O sgiliau hanfodol fel Mathemateg, Saesneg a TG, ESOL, a Chyrsiau Mynediad i Addysg Uwch i Gymwysterau Proffesiynol a hyfforddiant galwedigaethol mae yna rywbeth at ddant pawb.

Mae ein cyrsiau’n rhedeg trwy gydol y flwyddyn ac yn hyblyg i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Rydym yn deall pwysigrwydd cael help ar hyd y ffordd a dyna pam rydym yn cynnig maint dosbarthiadau bach sy’n cynnig cefnogaeth un i un; mae ein darlithwyr ymroddedig yno i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd, gan sicrhau bod eich holl gwestiynau a’ch anghenion yn cael eu diwallu.

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae fy narlithydd bob amser ar ben arall yr e-bost ac wedi bod yn sbardun arbennig y tu ôl i’m llwyddiant personol. ” Teri Davies, Myfyriwr AAT ac enillydd Medal Aur World Skills.

Ac ar ben hynny…. mae rhai hyd yn oed yn rhad ac am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, trwy Gyfrif Dysgu Personol (CDP).

Mae Cyfrif Dysgu Personol (CDP) yn rhaglen i unigolion cyflogedig gael gafael ar gyllid ar gyfer cyrsiau.

Bydd CDPau yn caniatáu ichi ennill y sgiliau cywir i naill ai newid gyrfa neu symud ymlaen mewn cyflogaeth ar lefel uwch. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn, a ariennir yn llawn, yn caniatáu ichi astudio a gweithio o amgylch eich ymrwymiadau teuluol a chyflogaeth. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio’n benodol i ddarparu hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau, er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn y dyfodol yn cael eu diwallu.

Mae’r sectorau hyn yn cynnwys:

  • CREADIGOL
  • DIGIDOL
  • PEIRIANNEG
  • GWASANAETHAU ARIANNOL
  • IECHYD
  • TWRISTIAETH A HAMDDEN (GAN GYNNWYS LLETYGARWCH AC ARLWYO).

I fod yn gymwys ar gyfer Cyfrif Dysgu Personol, bydd angen i unigolion fod dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn, neu wedi cael eu rhoi ar ffyrlo. Mae cyllid CDP penodol ar gael i gwmnïau hefyd.

Bydd Wythnos Dysgwyr Oedolion yn cael ei chynnal rhwng 20 – 26 Medi. Cliciwch y botwm isod i ddarganfod mwy am ein cyrsiau dysgu oedolion.

Rhagor o wybodaeth

Dysgwyr sy’n Oedolion yn Mwynhau Llwyddiant trwy Gyllid CDP

Eleni, mae Cyfrifon Dysgu Personol wedi galluogi ein myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC i ddatblygu ac uwchsgilio eu harbenigedd Cyfrifeg trwy gymwysterau AAT. Mae’r cyllid wedi galluogi llawer o fyfyrwyr a fyddai wedi methu fforddio astudio yn ystod yr amser anodd hwn i barhau â’u hastudiaethau a chyrraedd eu dyheadau.

Enillodd y cyfrifwyr gwych, Teri Davies, 33 o Faesteg a Kelly Hammett, 44 o Gastell-nedd, y ddwy yn astudio Diploma Uwch AAT yng Ngholeg Castell-nedd, Fedalau Aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau

yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn helpu i roi hwb i setiau sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK.

A dyna’n union y mae Teri a Kelly wedi’i wneud. Mae’r ddwy fyfyrwraig, ynghyd â myfyriwr arall a ariennir drwy CDP, Jemma Cocks, bellach wedi symud ymlaen i Rowndiau Cymhwyso Cenedlaethol cystadleuaeth World Skills UK, gyda’r cyfle i ennill teitl y  gorau yn y DU.

Dywedodd Emma Johnson, Darlithydd Cyfrifeg yng Ngholeg Castell-nedd: “Rwyf wrth fy modd gyda holl gyflawniadau ein myfyrwyr AAT a ariannwyd drwy CDP eleni. Mae’n fraint gallu cynnig cyfle i fyfyrwyr mor gydwybodol symud ymlaen yn y gyrfaoedd o’u dewis, ac wrth gwrs datblygu’r unigolion medrus iawn sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant y mae ein busnesau lleol yn chwilio amdanynt.”