Gwobr Diogelwch Foltedd Uchel i Martin

Mae Coleg y Drenewydd wedi bod yn cynnig hyfforddiant Cerbydau Trydan a Hybrid ers dechrau 2020 ar ôl symudiad arloesol gan adran Cerbydau Modur Coleg y Drenewydd i gadw i fyny ag anghenion newidiol y diwydiant moduro.

Mae’r cyrsiau rhan-amser hyn yn cael eu cydnabod gan y diwydiant ac fe’u cyflwynwyd gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer offer arbenigol a Chyfrifon Dysgu Personol (CDP). Daeth cyflwyno’r cyrsiau Lefel 1-4 Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI) ar ôl cydnabod yr angen i fecanyddion moduro a chrefftwyr cysylltiedig ddod yn gymwys yn y diwydiant, i ddiwallu anghenion poblogrwydd cynyddol ceir trydan a hybrid.

Daw llawer o’r rhai sydd wedi cwblhau’r cyrsiau o fusnesau lleol. Un ohonynt yw Martin Stevens o Electric Classic Cars (ECC) yn y Drenewydd.

Mae Martin wedi cwblhau Lefel 2 a Lefel 3 y Gwobrau ILM ac mae bellach yn eistedd ar fwrdd diogelwch Sefydliad y Diwydiant Moduro (IMI). Esbonia Martin fod yr hyfforddiant yn hanfodol ar gyfer ei rôl fel uwch Dechnegydd Cerbydau Trydan yn Electric Classic Cars, cwmni lleol sy’n troi ceir clasurol yn gerbydau trydan gan roi bywyd newydd iddynt a’u gwneud yn addas i fod ar y ffordd yn yr 21ain ganrif.

Mae’r cwmni, y tyfodd ei enwogrwydd yn gyflym yn dilyn ei lwyddiant wrth drawsnewid ceir ac ymddangosiadau ar sioeau teledu fel Guy Martins: The World’s Fastest Electric Car a Fully Charged, yn ogystal â chael ei sioe eu hunain Vintage Voltage, sy’n cynnwys mecanyddion yr ECC yn mynd i’r afael ag ystod o drawsnewidiadau ceir clasurol bellach yn cyflogi tîm o 15 aelod o staff.

Mae ECC wedi ymrwymo i ddyfarnu hyfforddiant Cerbydau Trydan a Hybrid IMI i holl staff y gweithdy.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Richard Morgan, ‘Mae’r hyfforddiant hwn yn hanfodol i’n haelodau staff. Fel unrhyw gymhwyster, mae’n darparu sylfaen gyffredin o wybodaeth. Mae’r cynnwys a gwmpesir yn y cwrs yn atgyfnerthu’r ymwybyddiaeth o’r safonau diogelwch sy’n ofynnol wrth weithio gydag offer foltedd uchel. Rydym yn ffodus bod y coleg lleol a’r darlithydd Dan Prichard yn ddigon blaengar i ymateb yn gyflym i anghenion hyfforddi’r diwydiant’.

Dywedodd Dan Pritchard, Darlithydd, ‘mae’r cwrs yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb. Mae’n dechrau gydag ymwybyddiaeth sylfaenol o gerbydau a diogelwch ar lefel 1, cynnal a chadw ac atgyweirio ar lefel 2, byddai Lefel 3 ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar systemau foltedd isel sy’n gwneud diagnosis ac yn atgyweirio, ac mae lefel 4 ar gyfer diagnosis ac atgyweirio systemau foltedd uchel’.

Aeth ymlaen i ddweud, ‘Mae’n wych cefnogi’r gweithlu lleol fel Electric Classis Cars a helpu eraill i baratoi ar gyfer symud i ffwrdd o betrol a disel i drydan a hybrid. Mae gennym hyfforddiant ar y safle ond rydym hefyd wedi bod yn rhan o hyfforddiant rhithwir i gwmnïau rhyngwladol, fel ein cydweithrediad diweddar â chynrychiolwyr yn India. Wedi’r cyfan, mae gostwng allyriadau carbon o ddiddordeb ledled y byd ac mae’r ffocws ar gerbydau trydan a hybrid yn un o’r newidiadau mwyaf a welwyd yn y diwydiant modurol mewn dros 50 mlynedd.’

Os ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd fe allech chi fod yn gymwys ar gyfer cwrs AM DDIM o dan gyllid Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Gallwn drafod cyllid gyda chi wrth dderbyn eich ymholiad.

I gael rhagor o fanylion am gyrsiau CDP a Cherbydau Modur yng Ngrŵp Colegau NPTC ewch i www.nptcgroup.ac.uk neu Ffoniwch ein Huned Datblygu Busnes, Karen Harris-Vernon ar Ffôn: 0800 013 2544 i archebu lle ar y cwrs hyfforddi Cerbydau Trydan a Hybrid.