Mae Enillydd y Sioe ‘The Apprentice’ yn Cyfarfod Myfyrwyr NPTC yn y Ffair Gyrfaoedd

Mwynhaodd Grŵp Colegau NPTC ei ail ymweliad i Ŵyl Gyrfaoedd Powys a gynhelir yn flynyddol, gyda staff a myfyrwyr presennol ochr yn ochr â chyn-fyfyrwyr a chyn-aelodau o staff yn ymuno â’r hwyl a sbri.

Daeth mwy na 2,500 o fyfyrwyr o ledled Bowys i’r digwyddiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth ym Maes y Sioe Frenhinol Llanelwedd, Llanfair ym Muallt. Bwriad y sioe oedd dangos y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ym Mhowys ar ôl iddynt adael yr ysgol neu addysg bellach, gydag amrywiaeth o arddangoswyr a sefydliadau yn mynychu’r digwyddiad.

Alana Spencer, sef enillydd y sioe BBC ‘The Apprentice’ yn 2016 oedd y gwestai arbennig ar y diwrnod ac roedd cyfle i nifer o’n myfyrwyr gyfarfod â hi.

Roedd Alana hefyd yn feirniad yn y gystadleuaeth fewnol lle yr oedd ysgolion a cholegau yn cael eu gwahodd i gyflwyno’u barnau am ‘denu pobl ifanc i fyw a gweithio ym Mhowys’.

Gwnaethpwyd argraff dda ar y beirniaid gan fyfyrwyr o Goleg Y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog ill dau ac aeth y myfyrwyr drwyddo i’r rownd derfynol!

Roedd cyfle i bawb a fynychodd y digwyddiad gyfarfod Ellie Williams ac Eifion Jones, sef 2 o’n myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan gydag Alana mewn sesiwn holi ac ateb i roi blas ar eich llwybrau gyrfaol.

Bu Ellie yn fyfyriwr yng Ngholeg Y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) am dair blynedd, pryd yr oedd hi’n astudio cwrs Lefel 3 mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

Yn 20 oed erbyn hyn, mae hi’n gweithio yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ar ôl cyfarfod ar hap yng Ngŵyl Gyrfaoedd Powys ym Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt.

Mae Eifion yn fyfyriwr mewn Amaethyddiaeth ar hyn o bryd yng Ngholeg Y Drenewydd ac mae hefyd yn gweithio ar fferm gwartheg a defaid y teulu yn Llangadfan, Powys.

Mae hefyd yn berchen ar fusnes weldio a ffabrigo, SEJ Engineering, ac yn ddiweddar llwyddodd i ennill nifer o wobrau fel Gwobr Lantra ‘Dysgwr Ifanc y Flwyddyn Astudiaethau Seiliedig ar Dir ‘ yn Ffair y Gaeaf yn Llanfair ym Muallt.

Mae’r Ffair Gyrfaoedd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i Ellie a dywedodd ei bod hi’n falch bod ei darlithwyr yn y Coleg wedi ei pherswadio i fynychu’r digwyddiad.

“Mae bod yn fyfyriwr yn y Coleg wedi rhoi llawer o brofiad, cymhelliad a hyder i fi.

“Roedden nhw’n fy annog i drwy’r amser i gymryd rhan mewn digwyddiadau gwahanol.  Ar y pryd, doedd y digwyddiadau ddim yn ymddangos yn bwysig iawn ond wrth edrych yn ôl ar y profiadau hyn dwi’n gwerthfawrogi’n fawr iawn y ffaith fy mod i wedi cael y cyfle i roi cynnig.”

“Er enghraifft, roedd Gŵyl Gyrfaoedd Powys yn rhywbeth na fyddwn i wedi ei mynychu o bosib os nad oedd y darlithwyr yn ein hannog ni i gymryd rhan ac roedd yn brofiad ofnadwy o werthfawr i fi wedi’r cwbl!”

Yn ddiolchgar am y cyfle i symud ei gyrfa yn ei blaen, dywedodd: “Oni bai am y cwrs, ni fyddwn i yma lle yr ydw i heddiw.  Rhoddodd y cwrs a’r darlithwyr y sbardun a’r cyfeiriad a oedd wedi fy ngalluogi i ddysgu sgiliau newydd ac ennill hyder a dyna pam fy mod i wedi cyrraedd fy sefyllfa bresennol”

Fwy o wybodaeth am ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch