Newydd gyrraedd yn ffres o Fforest Law’r Amazon i Grŵp Colegau NPTC

Bu croeso cynnes i Javier Hualinga A Quichua, Indiad o Fforest Law’r Amazon a ddaeth i Grŵp Colegau NPTC fel rhan o’i ymweliad cyntaf y tu allan i Dde America.

Siaradodd Javier â myfyrwyr yng Ngholeg Castell-nedd a Choleg Afan gan roi goleuni unigryw iddynt am ei fywyd a’i ddiwylliant drwy drafod sut mae materion fel datgoedwigo, cynhesu byd-eang a masnacheiddio wedi cael effaith ar ei lwyth a’i ddull o fyw.

Daeth myfyrwyr o nifer o adrannau amrywiol i wrando arno a holi cwestiynau.  Roedd ei gyflwyniad yn cwmpasu nifer o feysydd pwnc allweddol gan gynnwys dinasyddiaeth fyd-eang, materion amgylcheddol, datblygiad cynaliadwy, parch ac urddas.  Dyma’i daith gyntaf i Gymru lle y daeth wyneb yn wyneb ag eira a chafodd gyfle i flasu cawl sef pryd o fwyd Cymreig traddodiadol.

Siaradodd am ei blentyndod yn y fforest law, dod o hyd i’w bwydydd eu hunain, da byw a llety.  Mae Javier yn poeni am y ffaith bod ei ddull o fyw yn newid o ganlyniad i ddatgoedwigo a dywedodd: “Rydyn ni’n sylweddoli nad oes modd i ni amddiffyn y fforest bellach heb gymorth.  On i’n arfer helwa mwncïod ond maen nhw’n diflannu erbyn hyn o ganlyniad i’r ffaith bod y fforest yn cael ei dinistrio.  Mae’r fforest law yn cyfrannu sut gymaint at y byd o ran bwydydd, meddyginiaeth, awyr glan a dŵr.  Dwi am annog pobl i ddod yn fwy ymwybodol a sylweddoli pwysigrwydd gofalu am y blaned yn gyffredinol; dim y fforest law yn unig.”

Sefydlwyd y ‘Sani Lodge’ gan ei gymuned lle y gall ymwelwyr ddysgu, rhannu a dechrau parchu ei ddiwylliant.  Mae unrhyw elw o’r ymweliadau yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned, yn arbennig ym meysydd iechyd ac addysg.

Trefnwyd ei ymweliad gan Phil Williams o Ben-y-bont ar Ogwr sef yr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd dros Gymru ar hyn o bryd.  Mae Phil yn mynd ag athrawon, myfyrwyr a phobl o’r byd busnes ar deithiau i Fforest Law’r Amazon i ffeindio ffeithiau; mae hefyd yn ymgynghorydd ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd ar ran Coleg Castell-nedd a Choleg Afan (rhan o Grŵp Colegau NPTC).

Dywedodd Phil: “Dyma ymweliad cyntaf Javier i sefydliad addysg bellach yn y DU, bu’n llwyddiant mawr gyda’r myfyrwyr sy’n ymddiddori mewn materion amgylcheddol a dulliau gweithredu ar y llwyfan byd-eang yn ymgysylltu ag ef yn fawr iawn. Mae’n bosibl y bydd e’n dychwelyd i Gymru ym mis Awst.”

 

Capsiwn ar gyfer y llun: Mae Javier, Indiad yr Amazon yn cael croeso cynnes gan Grŵp Colegau NPTC.