Tapio i mewn i Yrfa Newydd

Mae Emily Ashton wrthi’n trio ennill cydnabyddiaeth – a bywoliaeth, wrth iddi gychwyn ar yrfa ym myd plymio.

Roedd y myfyriwr o Lanidloes, Powys sy’n 24 oed yn arfer gweithio fel glanhawr cyn rhoi’r gorau i’w swydd i ddechrau ei chymwysterau yng Ngholeg Y Drenewydd (rhan o’r Grŵp Colegau NPTC).

Mae gan Emily agwedd gadarnhaol, rhywbeth sydd wedi ei helpu i ennill prentisiaeth gyda chwmni plymio a gwresogi lleol.

Mae Emily wedi cyflawni pedwar mis o’i phrentisiaeth gyda James Spilsbury o Spilsbury Plumbing and Heating. Cyflawnodd y pethau sylfaenol ac erbyn hyn mae Emily’n edrych ymlaen at weithio ar weithdrefnau mwy cymhleth.

Mae James yn herio Emily gyda’u prosiect mwyaf diweddar, gosod/sodro pibellau mewn tai newydd yn y Canolbarth. Dywedodd: Mae gwaith Emily yn dda. Mae pobl o Nwy Prydain un ymweld â ni ac maent yn sylwi ar ei gwaith a rhoi adborth cadarnhaol drwy’r amser.”

Mae Emily yn mwynhau’r gwaith hyd yn hyn ac er bod rhwystrau i ferched yn y diwydiant o bosib, nid yw Emily yn gadael i bethau eu hatal wrth gychwyn ar ei gyrfa newydd.

“Dwi’n hoffi gwneud rhywbeth gwahanol a bod yn rhan o grŵp bach a allai arwain y ffordd i ferched i weithio mewn diwydiant o’r fath hon,” dywedodd.

Mae’r myfyriwr o Goleg Y Drenewydd yn falch ei fod wedi cael mynediad i’r diwydiant drwy gyflawni prentisiaeth ac mae hi’n argymell y llwybr hwn i bobl eraill.

Mewn ymateb i’r cwestiwn a fyddai hi’n argymell prentisiaethau Coleg Y Drenewydd i bobl eraill, dywedodd : “Byddai, gorau po fwyaf! Mae dynion sydd yn ben y sector hwn yn fwy na dim ond mae merched yn gallu gwneud y gwaith hefyd. Mae’r Coleg yn dda iawn ac yn gefnogol iawn, yn arbennig y tiwtoriaid, mae rhywun ar gael i’ch helpu drwy’r amser.  Dwi ddim yn ‘nabod unrhyw blymwyr benywaidd eraill.  Gobeithio y bydd pobl sy’n fy ngweld wrthi’n gwneud y gwaith yn meddwl : “O, dwi’n gallu ‘neud hyn ac amdani ‘te.”

Am fwy o wybodaeth am ein prentisiaethau, ewch i www.nptcgroup.ac.uk neu anfonwch e-bost: theresa.mullinder@nptcgroup.ac.uk