Apwyntiad gweinidogol i Jarrod

Mae Jarrod Thomas sef myfyriwr Safon U yng Ngrŵp Colegau NPTC wedi derbyn apwyntiad gweinidogol i fod yn aelod o’r pwyllgor yng Nghyngor Iechyd Cymunedol Abertawe Bro Morgannwg; bydd e’n ymuno â Phwyllgor Castell-nedd Port Talbot fel aelod cyflawn i gynrychioli gweithdrefnau’i gymuned leol yn y sector iechyd.

Mae Jarrod wedi chwarae rhan weithredol yn y Cyngor Iechyd Cymunedol er mis Tachwedd, wrth fonitro a rhoi adborth am weithdrefnau a gwasanaethau iechyd yn ei ardal. Ar hyn o bryd mae Jarrod wrthi’n astudio detholiad o gymwysterau Safon U yn y Gwyddorau i ddilyn ei yrfa yn y sector addysg ac mae wedi derbyn cynnig diamod i astudio BSc mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd: “Dw i wrth fy modd i fod yn rhan o’r pwyllgor, does dim diwrnod arferol yn y Cyngor. Mae fy nhasgau’n amrywio o fynychu cyfarfodydd gyda bwrdd iechyd i ddelio â materion allweddol a diweddariadau i wasanaethau lleol, a allai effeithio ar y gymuned, gan rannu barnau’r bobl fy mod i wedi ymweld â nhw ac wedi siarad â nhw.”

Mae Jarrod yn gobeithio ysbrydoli pobl eraill i wirfoddoli yn eu cymunedau lleol: “Mae’n gyfle ardderchog i ddatblygu sgiliau allweddol, ennill profiadau newydd a bod yn rhan allweddol o ymgysylltiad a chymorth cymunedol. Er mis Tachwedd, dwi wedi cael profiad mor ffantastig ac fe fyddwn i’n annog unrhyw un i ymuno fel aelod cyfetholedig.”

Mae’r Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru yn sefydliadau statudol sy’n cynrychioli diddordebau’r cyhoedd a lleisiau annibynnol yn y GIG. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Abertawe Bro Morgannwg yn cynrychioli diddordebau’r cyhoedd yng Nghastell-nedd, Port Talbot, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Cynghorau Iechyd Cymunedol yn monitro cydraddoldeb y gwasanaethau GIG a ddarparir, ac fe’i cyflawnir drwy gynorthwyo a chynghori pobl sydd am gwyno am wasanaethau’r GIG, ynghyd â chynnig gwybodaeth a chyngor am wasanaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd yn yr ardal sydd ar gael i bobl leol a hefyd drwy fonitro perfformiad darparwyr gwasanaethau’r GIG.

Prif amcan y Byrddau Iechyd Cymunedol yw ymgysylltu â’r gymuned i sicrhau ei bod yn hapus gyda’r gwasanaethau sydd ar gael a’r buddion yn y pendraw. Mae’r cynghorau’n anelu at ryngweithio gyda phobl ifanc i wella amrywiaeth a chydraddoldeb oedran drwy gefnogi materion sy’n gysylltiedig â’r GIG – o wneud cwyn, i ddatblygu sgiliau newydd mewn ymgysylltu cyhoeddus.

 

Capsiwn ar gyfer y llun: Mae Jarrod wrthi’n cymysgu toddiannau yn y labordy gwyddoniaeth