Cafodd y gynulleidfa ysgŵd iawn ac roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol

Dros ddwy noson yn olynol yr wythnos ddiwethaf, yn Hafren, Lleoliad Adloniant Y Drenewydd, perfformiwyd sioe fendigedig gan Gwmni Theatr Ovation, hynny yw myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Y Drenewydd.  Sioe gerdd ffuglen wyddonol a ysbrydolwyd gan ‘The Tempest’ oedd y sioe o’r enw ‘Return to The Forbidden Planet’, gan Bob Carlton a fu farw yn gynharach eleni ac mae’r sioe yn cynnwys geiriau enwog o ddramâu eraill gan Shakespeare yn ogystal â chaneuon enwog roc a rôl fywiog o’r 50au, y 60au a’r 70au.

Mae’r stori’n dechrau wrth i’r Captain Tempest, cymeriad soffistigedig a berfformiwyd yn ffantastig gan Caleb Garry – arwain ei dîm ar ehediad archwilio arferol gyda swyddog gwyddonol newydd, Jade Gannon.

Wrth i gawod o wibfeini daro’r llong awyr, mae’r swyddog gwyddonol yn ffoi ac mae’r llong yn cael ei dynnu tuag at y Blaned D’illyria – lle y mae’r gwyddonydd gwallgof Doctor Prospero sef Thomas Chapman, wedi bod yn llongdrylliedig am 15 o flynyddoedd gyda’i ferch yn ei harddegau Miranda – roedd myfyriwr hyfryd o’r enw Chloe Collins yn chwarae’r rôl ar y noson gyntaf ac Eleri Willson brydferth ar yr ail noson.  Yno, mae ef wedi bod wrthi’n gweithio ar greu’r fformiwla anodd dod o hyd iddi y byddai’n ei ddefnyddio i newid y byd.

Yno ar y blaned waharddedig, mae’r stori yn mynd yn ei blaen – gyda llawer o ddawnsio bywiog, caneuon cyfarwydd fel ‘Great Balls of Fire’, ‘ All Shook up’ ac ‘A Teenager in Love’ a oedd i gyd wedi’u coreograffu’n llyfn.  Roedd y sioe yn ymgysylltu â’r gynulleidfa yn syth ar y ddwy noson ac roedd ymateb ryngweithiol y ddwy gynulleidfa’n frwdfrydig a bywiog. At hynny, roedd yr eiliadau doniol a’r lleisiau o safon uchel wrth ganu’r caneuon yn creu sioe gyffrous i’r gynulleidfa.

Cyflwynwyd y cast eu sgriptiau dull Shakespeare yn hawdd gyda thôn a oedd yn taro’r nodyn i’r dim gan Richard Bresnen fel yr Adroddwr, ac roedd Amy Jones a gymerodd ran y robot arian yn troed-rolio heb ymdrech o gwmpas y llwyfan yn ei hesgidiau rholio.  Gwelwyd perfformiadau llawn hwyl a sbri gan Gabrielle Grant, Bosun, a’r Swyddog Llywio, Todd Bates gydag adloniant ar y gitâr gan Lewis Reynolds – Samuel fel Cookie, claf o gariad.

Roedd y set yn rhywbeth i wledda â’ch llygaid arni ynghyd â gwisgoedd ffynciog y dawnswyr sef Arweinydd y Criw Lauren Tidbury a’i Chriw: Kasie Fury, Poppy Evans, Wyatt Hughes, James Harmon ac Alistair Acraman.

Rhwng popeth, gweithiodd y cast mor galed i sicrhau bod y gynulleidfa yn cael hwyl a sbri.  Cynhyrchiad gwych gan bawb a gymerodd ran.  Da iawn Cwmni Theatr Ovation.