Beth am astudio Gradd ar Garreg eich Drws?

Newydd gael eich canlyniadau Safon Uwch/Lefel 3 heb fod yn sicr am beth i’w wneud nesaf? Neu ydych chi am ddychwelyd i ddysgu, newid eich llwybr gyrfa neu uwchsgilio eich swydd bresennol?

Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn cynnig #GraddauArGarregEichDrws, gan ddarparu cyrsiau addysg uwch yn lleol, felly, does dim angen i chi symud i ffwrdd i gael addysg o ansawdd uchel!

Rydym wedi datblygu llu o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau Addysg uwch o fri, wedi’i gynllunio â’ch cyflogaeth a’ch gyrfa yn y dyfodol mewn cof. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o Raddau, Graddau Sylfaen, cymwysterau HNC a HND a Thystysgrifau Proffesiynol, yn ogystal â chyrsiau Mynediad newydd sbon.

Rydym wedi cael ein hasesu fel un o’r colegau/prifysgolion gorau yn y DU ôl ein sgôr gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) y DU ac mae gennym y Wobr Arian am ein darpariaeth addysg uwch.

Rydym yn cynnig dosbarthiadau bach a chefnogol ac awn ati i drefnu’r amserlen fel y gallwch ddal i weithio neu gyflawni cyfrifoldebau teuluol ar yr un pryd ag astudio. Mae popeth wedi’i gynllunio i roi’r siawns gorau o lwyddo i chi!

Yma, mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr yn rhannu eu profiadau o astudio cwrs addysg uwch gyda ni:

Emma Price

“Wnes i HND mewn Busnes ychydig o flynyddoedd yn ôl, ar yr un pryd â gweithio’n llawn amser. Roedd yn wych y gallech ei wneud dros ddau ddiwrnod ac roedd yr holl ddarlithwyr yn gefnogol a chyfeillgar iawn ac roedden nhw’n mynd allan o’u ffordd i helpu. Mae’r profiad o fynd yn ôl i’r coleg pan nad ydych chi’n 18 oed bellach yn eithaf brawychus, ond gwnaeth pawb bopeth i wneud i fi deimlo’n gartrefol a mwynheais fy 2 flynedd. Byddwn i’n argymell unrhyw un sydd am ddychwelyd i addysg i fynd ati. Dwi’n berchennog fy musnes fy hun erbyn hyn felly mae’r HND wedi bod o gymorth mawr i fi yn bendant”

Rhian Joseph-Jones

Oni bai bod Grŵp Colegau NPTC yn cynnig graddau mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, dwi ddim yn credu y byddwn i erioed wedi dychwelyd i addysg. Roeddwn i bob amser yn awyddus i fod yn athro a meddyliais fy mod i wedi colli’r cyfle hwnnw.

Roedd y profiad o ddychwelyd i addysg ar ôl deng mlynedd yn ddychrynllyd, ond, yn y coleg, roedd dosbarthiadau bach ac mae’r darlithwyr yn anhygoel ac mor gefnogol.

Roeddwn i’n astudio ar gyfer gradd amser llawn, ond yr hyn sy’n wych am astudio mewn campws Coleg, yw’r ffaith eu bod yn cynnal y darlithoedd ar ddau ddiwrnod llawn, fel y gallwch ffeindio amser i astudio ochr yn ochr â bywyd gwaith a’r teulu.

I unrhyw un sy’n ystyried mynd yn ôl i addysg, dydy hi byth yn rhy hwyr, ac mae’n syndod faint o help a chefnogaeth sydd ar gael.

Bellach mae gennyf fy ngradd, ac rwy’n barod i gymryd y cam terfynol a mynd i’r brifysgol i gwblhau TBAR. (Gallwch hyd yn oed wneud hyn ar sail ran-amser gyda Grŵp Colegau NPTC.)

Ni allwn argymell Grŵp Colegau NPTC hynod ddigon, maen nhw wedi bod yn wirioneddol ffantastig wrth roi addysg wych i fi!”

Matthew Davies

“Astudiais i yma fel rhan o radd BA anrhydedd ac mae’r Adran Fusnes yn adran ddosbarth cyntaf, a byddwn yn argymell astudio yma, os mai addysg yw’r peth sydd ei eisiau arnoch wedyn Grŵp Colegau NPTC yw’r union le i chi!”

Cewch fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Addysg Uwch yma