Y Sêr Disgleiriaf ar y Brig mewn Gwobrau Myfyrwyr

Mae rhai o’r myfyrwyr disgleiriaf a mwyaf addawol yng Nghymru wedi’u cydnabod yn seremoni flynyddol Gwobrwyo Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd.

Roedd y noson yn ddathliad o lwyddiant academaidd a phersonol, gydag un myfyriwr o bob maes academaidd yn cael ei goroni’n Enillydd Gwobr yr Ysgol. Roedd y seremoni hefyd yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan staff drwy gyflwyno Gwobr Llywodraethwr a Thiwtor y Flwyddyn. Daeth y noson i ben gyda gwobr ar gyfer myfyriwr cyffredinol y flwyddyn, a ddewiswyd gan Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC.

Arweiniwyd y seremoni gan yr actor a’r cyflwynydd, Kev Johns, a gyflwynodd yr enwebeion a rhoi’r tlysau i’r enillwyr. Hefyd, roedd Cymrodorion Anrhydeddus Grŵp Colegau NPTC, Ryan Jones a Suzy Drane, yn bresennol yn y dathliadau.

Cafwyd neges fideo gan y cyn-fyfyriwr a’r Cymrawd Anrhydeddus, Geraint F. Lewis, a oedd wedi bod yng Ngholeg Castell-nedd yr wythnos flaenorol i roi darlith wadd ar ganibaliaeth  galaethog a’r cais am ynni tywyll. Yn ei anerchiad a recordiwyd, anfonodd ei longyfarchiadau i holl enillwyr y gwobrau. Ychwanegodd: “Mae addysg yn wirioneddol yn ymdrech gydol oes ac ni ddylai byth ddod i ben. Wrth edrych yn ôl, yr wyf yn sylweddoli sut wnaeth fy amser yng Ngrŵp Colegau NPTC fy ngosod ar y ffordd i fod y person yr wyf heddiw. Dymunaf ichi y gorau ar gyfer y dyfodol.”

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn cyflawni canlyniadau rhagorol cyson yn Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol. Ar gyfer y 13eg flwyddyn yn olynol, mae’r gyfradd lwyddo Safon Uwch wedi parhau ar 99 y cant, sy’n arbennig, ac roedd y Gwobrau Myfyrwyr yn cydnabod y llwyddiant hwnnw. Cyflawnodd enillydd Gwobr y Prif Weithredwr, Rebecca Penney, 4 A* arbennig yn ei harholiadau terfynol ac mae wedi symud ymlaen i astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd Rebecca: “Roeddwn wrth fy modd i dderbyn y gydnabyddiaeth hon heno. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r Coleg a’m darlithwyr am feithrin fy nhalent academaidd a’m hannog i wthio fy hun yn barhaus. Mae’n wych i fod yn ôl yma heno, a gallu diolch i fy narlithwyr am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, fod y seremoni wobrwyo yn llwyddiant ysgubol: “Mae’n fraint i allu llongyfarch yr holl fyfyrwyr am y gwaith caled a’r ymroddiad y maent wedi’i ddangos. Mae’r Gwobrau Myfyrwyr yn ddathliad o’r ymdrech y mae’r myfyrwyr rhyfeddol hyn wedi’i rhoi i’w hastudiaethau. Hoffwn ddiolch i bawb am wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant arbennig, gyda sylw arbennig i noddwyr y noson.”

Wedi’i noddi gan Harcourt Colour Print, cydweithiwr argraffu hirsefydlog y Coleg, partner teithio First Cymru, a Knox and Wells, y prif gontractwr oedd yn gyfrifol am ddatblygu ac adnewyddu Bloc A/B lle y cynhaliwyd y diodydd a’r lluniaeth cyn y digwyddiad, hwn oedd y tro cyntaf y cynhaliwyd y gwobrau yng Ngholeg Castell-nedd.

Ychwanegodd Mark Dacey: “Yr ydym wedi cynnal y seremoni wobrwyo hon mewn rhai lleoliadau gwych yn y gorffennol, ond nid ydym erioed o’r blaen wedi meddu ar y cyfleusterau i’w chynnal yn fewnol. Nawr bod y dderbynfa newydd wedi’i chwblhau yng Ngholeg Castell-nedd, mae gennym ardal sy’n gwbl addas ar gyfer digwyddiad o’r math hwn.

“Ar ran holl staff Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd y Llywodraethwyr, anfonaf fy llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr.”