Sgwrs Wefreiddiol yn Ehangu Gorwelion Cosmig

A fydd sêr yn yr awyr am byth? A fydd y ddynoliaeth yn crwydro’r cosmos yn dragwyddol? Beth fydd dyfodol ein bydysawd? Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Astroffisegydd enwog, y  cyn-fyfyriwr a’r Cymrawd Anrhydeddus, yr Athro Geraint F. Lewis, wrth iddo ymweld â Grŵp Colegau NPTC yr wythnos diwethaf.

Ymunom â’r Athro Lewis, Athro Astroffiseg yn Athrofa Sydney ar gyfer Seryddiaeth, ar gyfer taith drwy’r gofod ac amser yng Ngholeg Castell-nedd. Yn ei seminar tri chwarter awr, dan y teitl ‘Bywyd, y Bydysawd a Mi’, siaradodd yr Athro Lewis â myfyrwyr am bynciau syfrdanol fel canibaliaeth galaethog, lensys disgyrchol ac ynni tywyll, yn ogystal â dweud wrthym am ei daith ei hun o Grŵp Colegau NPTC i Brifysgol Sydney.

Ganed yr Athro Lewis yng Nghastell-nedd ac fe’i magwyd ym Mlaendulais a’r Creunant, gan fynychu Ysgol Gyfun Llangatwg cyn ymuno â Choleg Trydyddol Castell-nedd, lle bu’n astudio Safon Uwch mewn Mathemateg, Ffiseg a Daearyddiaeth. Cwblhaodd ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Llundain, yng Ngholeg y Frenhines Mary, a PhD yn Athrofa Seryddiaeth Prifysgol Caergrawnt. Mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Stony Brook, Prifysgol Victoria yng Nghanada a Phrifysgol Washington yn Seattle. Ar ôl y swyddi ymchwil hyn yn yr UDA a Chanada, daeth yn Seryddwr Ymchwil yn yr Arsyllfa Eingl-Awstraliaidd yn 2000. Yn 2002, ymunodd Lewis â Phrifysgol Sydney lle mae’n bennaeth y Grŵp Astroffiseg Disgyrchol ar hyn o bryd.

Yn ei seminar, bu’r Athro Lewis yn twrio i un o bynciau mwyaf dyrys ein cyfnod, sef y mater o ffiseg tywyll! Eglurodd fod rhan fawr o’i waith yn canolbwyntio ar ‘ochr dywyll’ y bydysawd. Ar raddfa eang, mae ei raglen yn cynnwys edrych ar ddylanwad ynni tywyll a mater tywyll ar esblygiad a thynged terfynol y bydysawd. Dywedodd yr Athro Lewis wrth y myfyrwyr am y miloedd o gosmolegwyr ar draws y byd sydd ar hyn o bryd yn gweithio rownd y cloc i ddod o hyd i atebion a fydd yn newid ein bydysawd am byth.

Yna heriodd yr Athro Lewis y myfyrwyr i ddilyn eu breuddwydion, gan ddweud wrthynt am “sicrhau bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn dymuno ei wneud, a gwrandewch ar gyngor.” Ar ddiwedd y seminar, gofynnodd yr Athro Lewis rai cwestiynau allweddol i ni eu hystyried: “A oes ffiseg tywyll” a “sut gallai’r bydysawd fod wedi bod yn wahanol?” Atebodd hefyd nifer o gwestiynau gan gosmolegwyr brwd yn y gynulleidfa, yn cynnwys: “P un yw eich hoff alaeth” ac “a oes bywyd yn y cosmos?”

Os nad oeddech yn gallu ymuno â ni ar gyfer seminar yr Athro Lewis, gallwch ei wylio yn llawn drwy glicio yma.

Arhoswch i glywed cyfweliad unigryw gyda’r Athro Lewis, lle rydym yn ymchwilio’n ddyfnach i waith ei fywyd a darganfod beth wnaeth ei ysbrydoli i ddod yn un o gosmolegwyr mwyaf blaenllaw y byd.

Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ar gael lle gallwch chi ddechrau ar eich taith, yn union fel y gwnaeth yr Athro Geraint Lewis.

Cewch weld ein hystod lawn o gyrsiau yma.