Cyngerdd Goffa ar gyfer Unigolyn Allweddol yn Llwyddiant y Celfyddydau Perfformio

Helpodd Grŵp Colegau NPTC i dalu teyrnged i un o’i gyn ddarlithwyr drwy gynnal cyngerdd goffa yng Nghanolfan Celfyddydau Nidum yng Ngholeg Castell-nedd. Roedd y sioe yn llawn cerddorion a pherfformwyr enwog yn cynnwys aelodau staff presennol a blaenorol, a chyn-fyfyrwyr y Coleg. Ymhlith y rhai oedd yn perfformio ar y noson oedd yn gitarydd Jackson Lucitt, y soprano Rebecca Evans a’r canwr/cyfansoddwr Steve Balsamo.

Roedd Alan Good yn darlithio yng Ngholeg Castell-nedd yn y 1990au a dechrau’r 2000au. Ynghyd â’i gyd-ddarlithwyr ar y pryd, roedd Alan yn ganolog o ran codi proffil y ddarpariaeth celfyddydau perfformio yng Ngholeg Castell-nedd a helpodd i atgyfnerthu enw da rhagorol y ddarpariaeth Celfyddydau Perfformio Creadigol a Gweledol.

Yn gynnar yn 2018, yn drist iawn bu Alan farw yn dilyn salwch byr. Yn y cyfnod yn dilyn marwolaeth Alan, ysgogwyd ei ferch, Hannah Good, i sefydlu Bwrsari Cerddorol Alan Good er anrhydedd iddo. Trefnwyd cyngerdd goffa Alan Good i ariannu’r wobr arian parod a roddwyd i offerynnwr chwythbrennau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Wrth siarad ar noson y digwyddiad gala lle yr oedd pob tocyn wedi’i werthu, dywedodd Hannah:

“Pan fu farw fy nhad, sylweddolon ni gynifer o bobl oedd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth. Cawsom gymaint o negeseuon o gydymdeimlad gan ei gydweithwyr  a chyn-fyfyrwyr yma yn y Coleg roeddem ni fel teulu yn gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i barhau ei etifeddiaeth.

“Roeddem yn gwybod bod yn rhaid iddo ymwneud â cherddoriaeth ac addysg, felly penderfynon ni ar y syniad o Fwrsari Alan Good. Roedd gwobrwyo cerddor offerynnau chwythbren haeddiannol ar lefel clyweliad gyda ffordd o oresgyn rhwystrau i astudio yn ymddangos yn gydnaws ag athroniaeth fy nhad. Roedd y gyngerdd goffa yn estyniad o’r weledigaeth honno. Mae gallu codi arian ar gyfer y bwrsari – tra’n aduno cyn fyfyrwyr, staff a ffrindiau i ddathlu bywyd fy nhad – yn rhywbeth yr wyf yn falch ohono. Ac roedd ei gynnal yn y coleg yn ddewis amlwg.”

Wrth i’r syniad dyfu, daeth yn amlwg pwy fyddai’n perfformio: yr union bobl y gwnaeth ei thad gynorthwyo i lunio eu gyrfaoedd. Roedd yr awyrgylch yn y digwyddiad yn un o ddathlu a hel atgofion. Dywedodd Steve Balsamo, y prif leisydd gyda band roc Americana The Storeys, ei fod yn anrhydedd cael cais i berfformio ar y noson. Wrth siarad ag Andy Collins, chwaraewr gitâr fas gyda The Storeys, dywedodd Steve:

“Bydd Coleg Castell-nedd ac Alan Good, wastad yn dal rhan o fy nghalon. Pan oeddwn yn astudio yma yn y coleg, chwaraeais y brif ran yn Jesus Christ Superstar. Yn dilyn hynny, es am glyweliad gydag Andrew Lloyd-Webber a chael rôl Iesu Grist yn y West End.”

Ychwanegodd Andy Collins: “Mae’r Coleg yn rhan mor bwysig o arwain cerddorion ac artistiaid perfformio ac mae hynny’n rhywbeth yr oedd Alan yn teimlo mor gryf amdano. Lle bynnag y bo Alan, yr wyf yn siŵr ei fod yn edrych i lawr ac yn gwenu.”

Dywedodd Vicky Burrows, Pennaeth y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yng Ngrŵp Colegau NPTC:

“Mae’n fraint i gynnal Cyngerdd Goffa Alan Good yma yng Nghanolfan Celfyddydau Nidum ac i gefnogi’r bwrsari yn ei enw. Roedd Alan yn chwaraewr allweddol yn llwyddiant y cyrsiau celfyddydau perfformio, ac mae’n enw sy’n dal i fynd o nerth i nerth heddiw. Mae cael cynifer o bobl yma i ddangos eu parch a’u cymorth yn dyst i faint o bobl oedd yn caru ac yn parchu Alan Good.”