Llwyddiant yn yr UDA

Mae cyn-fyfyriwr ac aelod o alumni Grŵp Colegau NPTC, Conrad Roberts, wedi’i enwi fel cyfarwyddwr newydd o University Press of Kansas (UPK).

Sefydlwyd y sefydliad cyhoeddi ym 1946 ac mae’n cynrychioli’r chwe phrifysgol daleithiol : Emporia, Fort Hays, Kansas, Pittsburg, Prifysgol Kansas, a Wichita. Mae UPK yn cyhoeddi llyfrau ysgolheigaidd mewn amrywiaeth o ddulliau, ond mae ei lyfrau mwyaf adnabyddus ar gael ym meysydd  hanes America, gwleidyddiaeth a’r gyfraith.

Conrad yn unigolyn gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad ac mae wedi bod yn cyflawni’r rôl o gyfarwyddwr dros dro a rheolwr busnes ers mis Medi 2016. “Mae Conrad wedi gwneud gwaith hynod fel cyfarwyddwr dros dro ac yn amlwg mae e’n deall yr heriau a’r cyfleoedd o fewn y diwydiant cyhoeddi”dywedodd Carl Lejuez, Prifathro dros dro ac is-Ganghellor Gweithredol Prifysgol Kansas (KU).

Mae Roberts yn meddu ar radd baglor mewn Astudiaethau Cyffredinol gyda phwyslais ar hanes o Brifysgol Kansas a gradd cyswllt mewn Busnes a Chyllid gan Coleg Powys, bellach yn rhan o Grŵp Colegau NPTC. Wrth siarad am ei gyfnod yn y coleg, dywedodd Conrad:

” Mae Grŵp Colegau NPTC (Coleg Powys gynt) wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy addysg gynnar, ac yn sicr wedi rhoi’r cyfarwyddyd angenrheidiol a oedd ei eisian arnaf ar y pryd yn ogystal ag agor cyfleoedd na fuasai ar gael i mi fel arall.  Dwi’n falch iawn i ddod yn aelod o’r cyn-fyfyrwyr yn awr. ”

Roedd amlygiad cyntaf Roberts’ i UPK fel cyflogai myfyriwr mewn warws. Ar ôl graddio o’r KU, aeth ati am gyfnod byr i ddechrau ar yrfa fel chwaraewr golff proffesiynol ond dychwelodd i UPK i weithio fel ei rheolwr warws. Cafodd ei enwi wedyn fel rheolwr busnes dros dro ac yn fuan ar ôl hynny fe’i benodwyd yn oedd swyddogol i’r rôl honno. Fel rheolwr busnes roedd yn gyfrifol am holl agweddau ariannol UPK yn ogystal â rheoli gweithgareddau’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid a’r ganolfan ddosbarthu.

Ym mis Gorffennaf 2015, cafodd Roberts ei enwi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Rheolwr Busnes. Yn ychwanegol at ei gyfrifoldebau fel rheolwr busnes, arweiniodd Roberts y broses o greu a gweithredu cynllun strategol er mwyn gwella llwyddiant y sefydliad. Yn 2016 fe’i enwyd fel Cyfarwyddwr dros dro a Rheolwr Busnes, gan ychwanegu rhagolwg gweithredol a’r cyfrifoldeb am oruchwylio pedwar adran a 20 o weithwyr.