Cyrraedd y Brig: Rhydychen a Chaergrawnt ar y Gorwel

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Castell-nedd sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC, yn dathlu ar ôl cael eu derbyn i astudio ym Mhrifysgolion Rhydychen a  Chaergrawnt.

Mae Matthew Lawrence, sydd  ond yn 16 mlwydd oed ac  wrthi’n  astudio Safon U mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Ffiseg, wedi cael cynnig gan Brifysgol Caergrawnt – Coleg Emmanuel i astudio Mathemateg. Matthew yw’r myfyriwr cyntaf o’r Academi Chweched Dosbarth i gael cynnig gan Gaergrawnt ar gyfer Mathemateg ac mae’n fraint iddo hefyd i fod y myfyriwr ieuengaf i wneud hynny!

Mae Connor Doyle sef myfyriwr Bioleg, Cemeg a Chyfrifiadureg hefyd wedi cael cynnig gan Brifysgol Caergrawnt, i astudio’r Gwyddorau Naturiol yng Ngholeg Girton. Ac mae Si Wai Hui, sydd ar hyn o bryd yn astudio Safon U mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg ar ei ffordd i Rydychen. Derbyniwyd Si i astudio Meddygaeth yng Ngholeg Iesu.

Mae’r tri myfyriwr wrth eu bodd ac yn dweud eu bod wedi cael y cymorth gorau posibl gan Grŵp Colegau NPTC a’r Academi Chweched Dosbarth .

Dywedodd Matthew: “Ces i sioc ond dwi mor hapus i dderbyn y cynnig hwn gan Gaergrawnt. Dwi’n dal i fethu â chredu’r cwbl mewn gwirionedd. Dwi ddim yn gallu credu fy mod i’n cael y cyfle i wneud rhywbeth yr ydw i’n ei garu yn un o’r prifysgolion mwyaf ei bri yn y byd.”

Dywedodd Connor: “Dwi i ddim cweit wedi derbyn bod hyn wedi digwydd o ddifri chwaith. Dwi wedi bod yn gwylio fideos YouTube o fywyd yng Nghaergrawnt a dal heb dderbyn eu bod wedi cynnig lle i mi.  Doeddwn i ddim mewn gwirionedd wedi meddwl am wneud cais i’r Brifysgol ac yn enwedig Rhydychen a Chaergrawnt ond agorwyd fy llygaid i’r posibiliadau wrth fod yn rhan o’r Rhwydwaith Seren. Roedd y cynadleddau a’r cymorth a oedd ar gael i ni wedi fy helpu’n fawr iawn gyda’r broses ymgeisio a chyfweld yng Nghaergrawnt. Mae Seren yn ffordd wych o gysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg a gallwch rannu’ch gwybodaeth a’ch profiad gyda’ch gilydd”.

Dywedodd Si Wai bod ei freuddwyd wedi’i wireddu.  Mewn ymateb  i gwestiwn am ei hoff beth am ei astudiaethau hyd yn hyn yng Ngrŵp Colegau NPTC, atebodd: “Y maes llafur a mynd y tu hwnt iddo, diolch i’r rhaglen GATE (Myfyrwyr Galluog a Thalentog). Rhoddodd gyfle i mi gwblhau cwrs byr ‘Pre-U’ i ymbaratoi ar gyfer y Brifysgol. Llwyddais i wella fy sgiliau ymchwilio, meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu traethodau cyn y broses gyfweld heriol yn Rhydychen.”

Dywedodd Kelly Fountain, Cyfarwyddwr Astudiaethau: Yr Academi Chweched Dosbarth: “Rydyn ni wrth ein bodd â’r newyddion bod ein myfyrwyr wedi cael cynigion i astudio yn y prifysgolion gorau. Mae pob un o’r myfyrwyr hyn wedi elwa o fod yn rhan o’r rhaglen GATE yng Ngholeg Castell-nedd ac maent hefyd yn rhan o’r Rhwydwaith SEREN a gynlluniwyd i gefnogi disgyblion disgleiriaf Cymru. Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi cymryd rhan mewn nifer o sesiynau ymestyn a herio a dosbarthiadau meistr. Maen nhw hefyd wedi derbyn cyngor arbenigol gan diwtoriaid yma yn yr Academi Chweched Dosbarth wrth wneud cais drwy broses gystadleuol UCAS. Dymunwn pob llwyddiant iddynt yn eu harholiadau Safon Uwch sydd ar ddod “.

Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth am ein Hacademi Chweched Dosbarth, gan gynnwys ein cyrsiau Safon Uwch a rhaglenni’r GATE a Rhwydwaith Seren.

 

Capsiwn ar gyfer y llun: (O’r chwith i’r dde) Connor, Matthew a Si Wai ar ôl eu cynigion gan Rydychen a Chaergrawnt.