Mae cangen fasnachol arbenigol Grŵp Colegau NPTC yn parhau i ddarparu ystod o hyfforddiant i staff yn Ecolab ym Mhort Talbot

Mae cangen fasnachol arbenigol Grŵp Colegau NPTC yn parhau i ddarparu ystod o hyfforddiant i staff yn Ecolab ym Mhort Talbot.

Mae’r Coleg wedi bod yn cydweithio gyda Ecolab, arweinydd byd-eang ym maes technolegau a gwasanaethau dŵr, hylendid ac ynni, ers 2017. Mae staff wedi cwblhau hyfforddiant marsial tân, Hyfforddi’r Hyfforddwr, gyda dau aelod o staff ar fin dechrau ILM Lefel 3 Arwain a Chymell Tîm sy’n cael ei ariannu’n llawn drwy’r Gronfa Datblygu Sgiliau. Mae dau brentis Peirianneg yn Ecolab wedi dod drwy’r rhaglen ariannu Sgiliau ar gyfer Diwydiant.

Mae Elaine Thomas, a ymgymerodd â Hyfforddiant a Datblygiad yn Ecolab yn ôl ym mis Hydref 2017, yn hapus â’r cynnydd. Dywedodd: “Rydym wedi ymrwymo i uwchsgilio a hyfforddi staff, ac rydym yn falch iawn â chynnydd ein tîm a’r gwaith yr ydym wedi’i wneud ar y cyd â Grŵp Colegau NPTC.”