Triawd o Sêr Rygbi yn Goleuo’r Llwyfan Rhyngwladol

Wrth i dymor rygbi arall ddirwyn i ben, edrychwn yn ôl ar y llwyddiannau ar y cae i driawd o sêr rygbi sy’n dod i’r amlwg sydd wedi cael capiau dros Gymru dan 18 yn ystod 2018-2019.

Byddwch yn clywed llawer mwy am Bradley Roderick, Rhys Thomas a James Fender yn y blynyddoedd i ddod, gan fod y tri newydd gael eu harwyddo gan y Gweilch ar gontractau Grŵp B ac wedi cynrychioli Cymru yng Ngŵyl y Chwe Gwlad dan 18 yn ddiweddar, yn chwarae mewn gemau yn erbyn Lloegr a’r Eidal a buddugoliaeth 28-17 arbennig yn erbyn y pencampwyr diwethaf, sef yr Alban.

Cafodd Bradley Roderick, sy’n fyfyriwr yn Academi’r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd yr anrhydedd ychwanegol o fod yn gapten ar Gymru ar gyfer y twrnamaint. Mae canolwr Resolfen a chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangatwg hefyd wedi chwarae rygbi hŷn i glwb rygbi Aberafan yn Uwch-gynghrair y Principality, gan sgorio cais arbennig yn ei gêm gyntaf yn erbyn Llanymddyfri. Derbyniodd y wobr bwysig, ‘Chwaraewr y Flwyddyn’ Grŵp Colegau NPTC yn y Gwobrau Chwaraeon fis diwethaf.

Bradley Roderick yn rhedeg yn erbyn Ffrainc

Daeth ei gyd-fyfyriwr Safon Uwch Rhys Thomas, sy’n gallu chwarae yn yr ail reng neu’r rhes gefn, drwy’r system ieuenctid yn ei glwb lleol, Taibach, ac ar y cyd â Bradley a James, bu’n chwarae’n rheolaidd i Grŵp Colegau NPTC yng Nghynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru. Mae wedi chwarae rygbi hŷn i Gastell-nedd ac Aberafan yn ystod ymgyrch 2018-2019.

Bradley Roderick (chwith) a Rhys Thomas (dde) ar ôl iddynt chwarae am y tro cyntaf dros Aberafan RFC

 

Yn ymuno â Rhys ym mhac Cymru oedd y clo James Fender, sydd ar hyn o bryd yn astudio BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Derbyniodd y bachgen o dde Gŵyr, a chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt alwad hefyd i sgwad dan 19 Cymru, gan chwarae mewn gemau yn erbyn Ysgolion Uwchradd Lloegr a Japan.

James Fender yn chwarae yn erbyn Lloegr

Meddai Paul Williams, Hyfforddwr rygbi Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r tri wedi bod yn chwaraewyr ymroddedig dros Grŵp Colegau NPTC dros y ddau dymor diwethaf. Mae wedi bod yn bleser cael y cyfle i weithio gyda’r chwaraewyr talentog, medrus a hynod frwdfrydig hyn sydd â dyfodol disglair ym myd rygbi.”

Byddwn yn dilyn hynt Brad, Rhys a James yn agos a dymunwn lwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd rygbi ac, wrth gwrs, yn eu harholiadau sydd ar y gweill.