Dathlu Menywod mewn Amaethyddiaeth

Cynhaliwyd dosbarth meistr arbennig yn Fferm Coleg Fronlas (rhan o Goleg Y Drenewydd a Grŵp Colegau NPTC).  Cynhaliwyd gweithdy ymarferol ac ysbrydoledig ar gyfer ein myfyrwyr amaethyddiaeth gan y triawd ‘She Shears’, Emily Welch sef daliwr cyfredol record y byd mewn cneifio defaid,  Jill Angus-Burney cyn-ddaliwr record y byd a Hazel Wood o Seland Newydd. Cynhaliwyd y dosbarth meistr mewn cydweithrediad â Chyswllt Ffermio i ddathlu ‘Menywod mewn Amaethyddiaeth’.