Buddsoddi i Wella profiad Myfyrwyr yn Fuddugol i Goleg Castell-nedd

Mae Canolfan Academi’r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi ennill gwobr bwysig am wella profiad y myfyrwyr yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.

Mae’r wobr yn cydnabod sefydliad dysgu sydd wedi buddsoddi mewn gwelliannau i adeiladau sy’n gwella profiad myfyrwyr yn sylweddol.

Roedd yn erbyn cystadleuaeth o’r radd flaenaf, ond daeth y prosiect a gynlluniwyd gan Rio Architects i’r brig. Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydlu Rio, Richard Roberts: “Mae ennill gwobr mor bwysig yn gyflawniad gwych i Rio ond yn fwy o gyflawniad fyth i’n tîm gan i ni ddarparu gwasanaethau pensaernïaeth a dylunio mewnol. Mae Rio yn ymfalchïo mewn creu amgylcheddau cofiadwy i’n cleientiaid ac mae ennill y wobr am Brofiad Disgyblion/Myfyrwyr yn dyst i’r athroniaeth hon.”

Roedd y prosiect yn cynnwys adnewyddu, ad-drefnu ac estyn yn sylweddol adeilad presennol y coleg oedd yn dyddio o’r 1960. Erbyn hyn mae’n ganolfan weithgareddau brysur i fyfyrwyr a staff, gan ymgorffori gofod cymdeithasol mawr ac amgylchedd dysgu agored sy’n annog rhyngweithio. Ychwanegodd Pennaeth Pensaernïaeth Mewnol yn Rio a chyn-fyfyriwr Coleg Castell-nedd Claire Broad: “Roedd yn fraint cael ymgysylltu a chydweithio gyda rhanddeiliaid. Mae’r cyfleuster a ailgrewyd yn crisialu dyheadau ac ymrwymiad Coleg Castell-nedd i’w fyfyrwyr, ac rwy’n falch iawn o allu rhoi yn ôl i’r coleg a’m gosododd ar fy llwybr ar gyfer y dyfodol.”