Amser am Antur i’r Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae myfyrwyr ar gwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer o anturiaethau yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar.  Roedd eu taith pedwar diwrnod yn cynnwys taith gerdded i ben yr Wyddfa a chymryd rhan mewn rhywfaint o waith gwirfoddol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ystâd Ysbyty ger Betws y Coed.

Tra yr yr ardal bu’r grŵp o fyfyrwyr ail flwyddyn yn cynorthwyo’r ceidwad parc lleol Rhydian Morris i wneud amryw o swyddi, roedd hyn yn cynnwys casglu chwyn anfrodorol o’r enw Jac y Neidiwr, a oedd wedi gordyfu i brysgoedio coedwig ifanc yr oedd angen ei chlirio.

Arhosodd y myfyrwyr mewn tŷ bynciau lleol o’r enw Hendra Isaf.  Daeth pob un o’r myfyrwyr yn ôl yn flinedig ond yn hapus gyda’u llwyddiannau ar ôl eu campau pleserus.