Llwyddiant ar draws y Coleg

Mae myfyrwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC yn dathlu canlyniadau wrth gwblhau cyrsiau galwedigaethol yn ogystal ag astudiaethau Safon Uwch a phrentisiaethau.

Yng Ngholeg y Drenewydd, mae’r adran Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi bod yn arbennig o lwyddiannus gyda’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i’r brifysgol.

Cyflawnodd saith o’r myfyrwyr a oedd yn astudio L3 Diploma Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol y radd uchaf sef rhagoriaeth seren driphlyg.  Enillwyd y radd uchaf gan Amy Price, Lucy Collard, Carla Jones, Niamh Natasha Pugh, Lauren Tabberer, Trudi Hancock a Ruth Jenkins.

Dylid hefyd tynnu sylw at Ffion Jones, sef myfyriwr HSC, a enillodd wobr efydd yng ngwobrau Myfyriwr y Flwyddyn BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2019, i gydnabod ei hymroddiad a’i  hymrwymiad rhagorol i’r pwnc. Cyfunodd Ffion ei hastudiaethau BTEC â dwy swydd ran-amser, ynghyd  â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, gan godi £320 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer, yn ogystal â bod yn gadet gyda Heddlu Dyfed Powys, Arweinydd Cadetiaid yng Nghanolfan St. John Y Drenewydd, a chyflawnodd hefyd leoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan yn Y Drenewydd ac yn Ysbyty’r Drenewydd ar yr un pryd â chwblhau Gwobrau Dug Caeredin Efydd ac Arian a  llwyddodd rywsut i ffeindio digon o amser hefyd i ennill graddau gwych a fydd yn ei helpu i wireddu ei breuddwyd o fod yn swyddog yr heddlu. Mae Ffion bellach yn hyfforddi i fod yn gwnstabl rhan-amser gyda Heddlu Dyfed Powys.

Mae pob un o’r myfyrwyr ar y Diploma Estynedig L3 mewn Gofal Plant naill ai wedi dod o hyd i swydd neu wedi sicrhau lle mewn prifysgol o’u dewis. Yn rhyfeddol, mae Libby Cawley wedi llwyddo i dderbyn lle o fri fel un o’r 100 o fyfyrwyr yn unig sy’n hyfforddi  gyda’r Norland Nannies, dewis gofal plant i bobl gyfoethog ac enwog, gan gynnwys aelodau’r teulu brenhinol megis Tywysog George a Thywysoges Charlotte.

Dywedodd y darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sarah Eskins ‘ Bu gennym griw gwych o fyfyrwyr yn ein carfan fwyaf diweddar am bob math o resymau: gweithgar, penderfynol, brwdfrydig, llawn cymhelliant, cydwybodol a llawer o hwyl i’w haddysgu.  Mae’n drist eu gweld yn ein gadael ond maen nhw’n symud ymlaen i’r brifysgol neu i swyddi nawr. Dymunwn bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol’.