Diwrnod Gwallt Gwych i fyfyrwyr newydd yn Academi Lee Stafford Coleg y Drenewydd

Mae ein myfyrwyr cyntaf i ymuno ag Academi Lee Stafford mewn Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, newydd sbon, wedi dechrau ar eu hyfforddiant yng Ngholeg y Drenewydd. Rhoddwyd cyfarwyddyd i fyfyrwyr brwd wrth greu’r golwg enwog ‘Twisted Tong sef cyrls sbonciog. Mae hwn yn un o 22 o ryseitiau o raglen hyfforddiant gorau Lee Stafford. Rhoddwyd cyfarwyddyd i’r myfyrwyr ar y dechneg gan Jayne Schauenburg, Cyfarwyddwr Artistig Coleg Lee Stafford a darlithydd Gwallt a Therapi Cymhwysol Wylie Francis.

Bydd siop trin gwallt Lee Stafford yn dod i Goleg y Drenewydd ar 15 Hydref i lansio’r Academi newydd i gyflogwyr yn y fro. Bydd yn cynnal dosbarth meistr i siopau trin gwallt o bob cwr o Bowys ac yn lansio’n swyddogol yr Academi Lee Stafford, Trin Gwallt, Gwaith Barbwr yng Ngholeg y Drenewydd. Y cyntaf yng Nghymru!!!  Bydd angen tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn sy’n agored i weithwyr proffesiynol y diwydiant yn unig.