Josh yn cael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Ddoniau WorldSkills

Mae Josh Jones, sy’n Brentis Ailorffennu Cerbydau Modur, wedi ennill lle ar Raglen Ddoniau WorldSkills UK cyn Rownd Derfynol WorldSkills 2021 yn Shanghai.

Ar hyn o bryd mae Josh yn ymgymryd â phrentisiaeth gyda Pathways Training (darparwr dysgu seiliedig ar waith y Coleg) ac yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos yng ngweithdy cyrff ceir ‘Scuffed Up’ yn Abertawe.

Mae taith Josh i Raglen Ddoniau WorldSkills UK wedi’i weld yn cystadlu ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Fe gipiodd yr arian yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills Cymru ym mis Ionawr 2019 ac wedyn fe aeth ymlaen i gystadlu yn rowndiau cymhwyso WorldSkills UK (un o ddeunaw yn unig o brentisiaid gorau’r Deyrnas Unedig). O ganlyniad i’w berfformiad yma, fe enillodd le yn Rownd Derfynol Fyw WorldSkills UK ym mis Tachwedd 2019 a arweiniodd yn y pen draw at gael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Ddoniau WorldSkills UK.

Siaradodd Josh â ni am ei brofiad o rownd derfynol fyw WorldSkills UK a gynhaliwyd yn NEC Birmingham.

“Roedd yn gryn dipyn o straen. Mae angen i chi fod yn effro i’r hyn rydych yn ei wneud gan fod cyfyngiad amser ar yr holl dasgau, felly mae angen i chi barhau i ffocysu trwyddi draw. Bu’n dri diwrnod caled o gystadlu, ond roeddwn i’n ffodus yr oedd fy sgorau’n ddigon uchel i mi gael fy newis ar gyfer Rhaglen Ddoniau WorldSkills UK, gan olygu bod gennyf gyfle o gystadlu i gyrraedd Tîm y Deyrnas Unedig ar gyfer EuroSkills yn Graz (Awstria) cyn Rownd Derfynol WorldSkills yn Shanghai.

Meddai’r Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Mae’n anhygoel gweld criw mor gryf o bobl ifanc, y maent oll yn anelu at gynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan fyd-eang yn Shanghai.

“Byddant yn chwifio’r faner dros y Deyrnas Unedig, gan ddangos i weddill y byd ein bod yn datblygu’r sgiliau o safon uchel y mae eu hangen i’n helpu i fasnachu’n rhyngwladol a denu mewnfuddsoddi ar draws y DU i gyd i greu a chadw swyddi. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni fuddsoddi mewn rhagoriaeth wrth hyfforddi’r genhedlaeth nesaf er mwyn parhau’n gystadleuol yn fyd-eang a helpu creu economi ffyniannus.

“Llongyfarchiadau i bawb ar Raglen Ddoniau WorldSkills UK, nhw yw doniau eu cenhedlaeth ac fe ddylent helpu ysbrydoli pobl ifanc a’u rhieni ym mhobman – gan droi snobyddiaeth galwedigaethol ar ei phen – a chan ddangos bod dewis gyrfa technegol yn llwybr clir at lwyddiant yn y gwaith ac mewn bywyd.”

Llongyfarchodd Alec Thomas, sy’n Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Pathways Training, Josh ar ei gyflawniad penigamp: “Mae pawb yn Pathways Training wrth eu boddau â chyflawniad Josh. Mae Josh wedi profi ei hun fel ailorffenwr cerbydau modur medrus trwy gydol ei brentisiaeth ac wedi rhagori gyda’i gyflogwr Scuffed Up. Mae ei angerdd dros ei alwedigaeth yn amlwg ym mhopeth y mae’n ei wneud ac mae wedi cael ei wobrwyo gyda’r cyfle i roi cynnig ar gystadlu dros ei wlad yn WorldSkills. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda’r deunaw mis nesaf o hyfforddiant, a’r tu hwnt.”

Un dydd mae Josh yn gobeithio rhedeg ei weithdy cyrff ceir ei hun, ond tan hynny mae e’n mwynhau ennill arian wrth weithio i ddysgu.

Dwedodd e “Dw i wedi gweithio’n galed i gyrraedd ble ydw i nawr, gan wella fy nhechnegau a mireinio fy nghrefft yn gyson, yn fy ngweithle ac yn ystod fy niwrnodau astudio yn y Coleg. Mae medru gweithio ar yr un pryd ag astudio wedi bod yn werthfawr tu hwnt, gan fy mod yn dysgu pethau newydd bob dydd yn Scuffed Up; mae mathau gwahanol o dasgau’n dod i mewn bob dydd ar bob math o geir, felly mae angen i chi fod yn hyblyg. Mae’r ymdeimlad o foddhad pan fydd cwsmer yn hapus wrth adael ni heb ei ail, rwy’n mwynhau hynny’n fawr.”

Roedd gan Josh hyn i ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried bod yn brentis: “Byddwn yn argymell Prentisiaeth gyda Pathways Training i unrhyw un. Roeddwn i’n dwlu arni o’r diwrnod cyntaf y cerddais i drwy’r drws; Dw i’n dysgu ac yn datblygu bob dydd. Mae’n helpu fy mod yn cael fy nhalu hefyd!”

Yn awr bydd y prentisiaid a myfyrwyr ar Raglen Ddoniau WorldSkills UK yn treulio’r deunaw mis nesaf yn gwneud hyfforddiant ‘dychwelyd i’r hanfodion’. Mae hyn yn cael ei ffitio o gwmpas eu hymrwymiadau astudio a chyflogaeth cyn iddynt wynebu’r prawf dethol pennaf y flwyddyn nesaf i fachu lle ar y tîm a fydd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn WorldSkills Shanghai 2021.