Academi Prentisiaethau Newydd i Lywio Dyfodol Gofal Iechyd ym Mhowys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) a Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn dathlu Wythnos Prentisiaethau drwy roi croeso cynnes i’w prentisiaid Gweithiwyr Cymorth Gofal Iechyd cyntaf wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd newydd yn y GIG.

Maent yn rhan o grŵp o weithwyr ifanc sydd newydd ymuno â’r bwrdd iechyd yn ystod ei gam cychwynnol llwyddiannus o recriwtio prentisiaid. Nod Academi Prentisiaethau’r Bwrdd Iechyd, mewn partneriaeth ag Hyfforddiant Pathways, sef tîm Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Colegau NPTC yw recriwtio staff a rhoi iddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad er mwyn iddynt gychwyn ar eu taith i ddod yn nyrsys.

Mae’r ddau brentis yn gweithio ar wardiau ar draws Ysbyty Aberhonddu tra’n astudio ar gyfer cymhwyster lefel 2 a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Gofal Iechyd Clinigol trwy’r rhaglen prentisiaethau ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.

Dywedodd y prentisiaid, Kristy Abbott a Shannon Brewer, “Rydyn ni newydd gwblhau rhaglen gynefino ddwys dros bythefnos ac wedi dysgu cynifer o sgiliau newydd y gallwn eu rhoi ar waith nawr yn ystod ein hwythnosau cyntaf ar y wardiau. Rydyn ni mor falch o gael y cyfle hwn ac fe fyddem yn argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes Iechyd yn dilyn y llwybr hwn. ”

Dywed Katelyn Falvey, Pennaeth Addysg Glinigol PTHB, “Rwy’n llawn cyffro am ddatblygiad prentisiaethau Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd yn y Bwrdd Iechyd. Mae modd i ni gynnig cyfleoedd gyrfa i bobl Powys a all fynd â nhw ar daith datblygu gyrfa o fod yn brentis i ddod yn nyrs gofrestredig. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a dyma’r cam cyntaf ar y daith i ‘dyfu ein pobl ein hunain’ ym Mhowys.”

Bydd y prentisiaethau newydd yn helpu i wneud y gorau o weithlu a gefnogir a gallant  wella’r gofal i gleifion drwy ddangos ymrwymiad i lwybr gyrfa, a darparu cyfleoedd a chydnabyddiaeth i’r holl staff (clinigol ac anghlinigol) gan gynnwys datblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan arwain at fwy o hyblygrwydd i’r gweithlu.

Cynhaliwyd cyfres o sioeau teithiol llwyddiannus ar draws holl ysbytai PTHB fis Hydref diwethaf, gan gyflwyno staff presennol i nifer o raglenni dysgu seiliedig ar waith achrededig. Mae staff yn gallu manteisio ar ystod o gyfleoedd dysgu ar draws nifer o sectorau.

Dywedodd un aelod o staff sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Gweinyddiaeth Busnes, “Rwyf wedi bod yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd ers 12 mlynedd ac maent wedi fy nghefnogi i ddatblygu fy ngyrfa. Rwy’n mwynhau dilyn y cwrs Gweinyddiaeth Busnes Lefel 3 drwy NPTC yn fawr iawn.  Mae’r Aseswr wedi bod yn gymwynasgar ac yn gefnogol gan ganiatáu i fi weithio ar gyflymder sy’n addas i fi.  Mae’r cwrs bellach yn defnyddio porth lle y mae pob uned ar gael ac yn caniatáu i chi gyflwyno gwaith, ac mae hyn yn gwneud yr hyfforddiant yn fwy hygyrch ar adegau sy’n fwy cyfleus i fi.”

Ychwanegodd Alec Thomas, Rheolwr Hyfforddiant Pathways Grŵp Colegau NPTC:

Fel Coleg blaengar, rydyn ni’n deall yr angen i recriwtio prentisiaid ac uwchsgilio staff gyda’r sgiliau a’r agwedd i symud ymlaen yn eu dewis yrfaoedd, sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â llawer o fusnesau, yn enwedig o ran angen Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i greu gweithlu medrus yn y tymor hir.”

Ychwanegodd Anne-Marie Mason, Arweinydd Prentisiaethau PTHB, “Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o adrannau ar draws y bwrdd iechyd, ysgolion lleol a cholegau i hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda thîm ‘Hyfforddiant Pathways’ NPTC i ddatblygu fframweithiau cymwysterau priodol i recriwtio prentisiaid yn ogystal â  chynnig cyfleoedd i staff presennol er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau.”

“Fe fyddwn ni’n cefnogi Ffair Gyrfaoedd Powys ar 4 Mawrth yn Llanfair-ym-Muallt ac yn edrych ymlaen at weld disgyblion ysgol yn ymweld â’n stondin i ddysgu ragor am y rhaglenni prentisiaethau a’r cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.”

I gael rhagor o fanylion am yr Academi Prentisiaethau a Phrofiad Gwaith PTHB, cysylltwch ag Anne-Marie Mason, PTHB ar y rhif ffôn: 01874 71257, anne-marie.mason@wales.nhs.uk neu Alec Thomas, NPTC ar y rhif ffôn: 01639 648370

Nosweithiau Agored Grŵp Colegau NPTC: Coleg Bannau Brycheiniog – ddydd Mercher 11 Mawrth, Choleg Y Drenewydd – ddydd Iau 12 Mawrth. 4:30-7:30pm.