Ymweliad gan Nani Norland

Roedd myfyrwyr Coleg y Drenewydd yn ddigon lwcus i gael ymweliad gan siaradwr gwadd. Fe wnaeth Kate Morgan o’r Coleg Norland enwog ymweld â  myfyrwyr y cwrs Gofal Plant i roi cyflwyniad ar sut beth mewn gwirionedd yw bod yn un o’r nanis Norland uchel eu bri.

Mae Norland yn arbenigo mewn addysg y blynyddoedd cynnar ac mae ganddo enw da o’r radd flaenaf, yn rhychwantu dros 127 o flynyddoedd. Cafodd Norland ei goroni’n enillydd y Wobr Addysg Uwch Annibynnol yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCA) yn 2019.

Siaradodd Kate â myfyrwyr Gofal plant Lefel 2 a 3 yn y Coleg ac ateb eu cwestiynau yr oeddent wedi disgwyl yn eiddgar i’w holi. Drwy’r cyflwyniad, rhannodd Kate wybodaeth am y mathau o leoliadau gyrfa a chyflog y gall nani Norland eu cael, yn ogystal â pheth o’r hyfforddiant mwy arferol a wnaethant gan gynnwys cyrsiau gyrru wrth lithro a hunan-amddiffyn ac amlinellodd  manteision hyfforddi ar safon mor uchel i ddod yn un o’r goreuon.

I rai myfyrwyr coleg, dyma’r cam nesaf iddynt wrth ymgymryd â’u breuddwydion o fod yn rhan o addysg y blynyddoedd cynnar gyda Choleg Norland Nannies yn caniatáu i fyfyrwyr gofrestru ar ddau gwrs, sef BA (Anrh) Datblygiad a Dysgu y Blynyddoedd Cynnar ochr yn ochr â’r Diploma Norland enwog.

Mwynhaodd y myfyrwyr o’r Coleg y sgwrs addysgol yn fawr gyda rhai myfyrwyr hyd yn oed yn bwriadu ymweld â Choleg Norland yng Nghaerfaddon i’w ystyried fel y cam nesaf ar eu llwybr gyrfa.

Y llynedd, roedd Libby Cawley o gwrs Gofal Plant y Drenewydd yn ddigon ffodus i sicrhau un o’r llefydd cyfyngedig i fynychu’r Coleg.