Llwyddiant parhaus i Elin Orrells

Elin Orrells sef myfyriwr Amaethyddiaeth oedd derbynnydd diweddar  gwobr bwrsariaeth am ragoriaeth alwedigaethol NPTC 2020 gan yr ysgol arlwyo, lletygarwch ac amaethyddiaeth.

Cafodd Elin, myfyriwr ar ddiploma estynedig lefel 3 mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg y Drenewydd ei gydnabod am y fwrsariaeth yn y seremoni gwobrwyo myfyrwyr yng Nghastell-nedd. Mae’r wobr yn dilyn cyfres o lwyddiannau i Elin hefyd, am ei bod  wedi ennill gwobr Dysgwr Ifanc Coleg, o dan 26 oed yng Ngwobrau Lantra Cymru.

Mae Elin yn 19 oed o Aber-miwl ym Maldwyn, Powys ac mae hi’n gweithio’n galed yn y coleg a thu allan wrth helpu i redeg y fferm deuluol 1,200 erw. Mae cefnogaeth Elin ym musnes y teulu hefyd wedi cyfrannu yn y gorffennol at gael ei dyfarnu gan Waitrose fel ei gynhyrchydd cig oen y flwyddyn. Mae’r fformiwla hon ar gyfer llwyddiant yn dod o wir angerdd dros ffermio ac ymrwymiad i waith caled.

Dywedodd Sue Lloyd Jones Pennaeth Ysgol: Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth, Grŵp Colegau NPTC:

“Mae Elin yn fyfyriwr o botensial mawr, un sydd wedi dangos brwdfrydedd ac angerdd aruthrol am y diwydiant amaethyddol ac sydd wedi manteisio ar bob cyfle sydd ar gael iddi. Mae Elin yn hynod drefnus ac angerddol am y diwydiant a rôl mudiad y CFfI o fewn amaethyddiaeth. Mae gan Elin ddealltwriaeth ardderchog o systemau cig eidion a defaid a’r cyfleoedd a’r heriau a fydd yn codi yn y dyfodol. ”

Mae diddordeb Elin yn ymledu o helpu gyda rhedeg fferm o ddydd i ddydd i ddiddordeb brwd yn ei chariad at gŵn defaid  Awstralaidd. Mae Elin yn aelod o ‘the working kelpie Council of Australia ‘ ac mae wedi datblygu ei gwefan ei hun, wedi magu a gwerthu ei chŵn defaid bach ‘ Trefaldwyn ‘ mor bell i’r Gogledd â Nairn a Kelso yn yr Alban i Penzance yn y De.  Yn ddiweddar hefyd mae hi wedi ymddangos ar raglen ‘ Ffermio ‘ S4C gyda’i chŵn, gan esbonio pam eu bod yn berffaith ar gyfer y fferm.

Yn ogystal ag angerdd Elin ar y fferm, mae hi wedi bod yn aelod gweithgar o fudiad y ffermwyr ifanc ar ôl gwneud y gwaith fel Ysgrifennydd y Pwyllgor fforwm ieuenctid cyn symud yn llwyddiannus i rôl y Cadeirydd yn 2018 – 2019.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae Elin wedi llwyddo i gynyddu presenoldeb mewn cyfarfodydd fforwm ieuenctid ac mae wedi cynrychioli’r aelodau ifanc yn rheolaidd yn ogystal â bod yn bresennol yn y cyfarfodydd a’r digwyddiadau sirol.

Dywedodd y darlithydd mewn Amaethyddiaeth Martin Watkin: “Mae Elin yn llysgennad gwych dros ffermwyr ifanc ac mae ei diddordeb a’i hymroddiad ym myd ffermio yn amlwg. Rwy’n siŵr y bydd ei llwyddiant ym myd amaethyddiaeth yn parhau i ddod i’r amlwg. ”