Gweithio yn y Gymraeg – Grŵp Colegau NPTC yn Ennill Prif Wobr

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ennill y wobr bwysig ‘Gwobr Cymraeg Gwaith 2020: Cyflogwr y flwyddyn’ gan Dysgu Cymraeg – rhan o Lywodraeth Cymru.

Mae’r Coleg wedi bod yn rhan o gynllun Addysg Bellach Cymraeg Gwaith ers 2017, gyda thua 850 o aelodau staff yn dilyn hyfforddiant iaith Gymraeg.

Mae’r Tîm Gweithredol a’r Uwch Dîm Rheoli wedi bod yn gefnogol iawn o’r cychwyn, gan annog staff i ymuno â’r cynllun, gyda Phenaethiaid Ysgolion yn amserlennu gwersi o amgylch anghenion y staff er mwyn sicrhau presenoldeb uchel.

Mae staff hefyd wedi cael eu hannog i fynychu gwersi preswyl Cymraeg Gwaith, yn ogystal â dosbarthiadau amser cinio a gyda’r hwyr.

Yn 2018, cyflawnodd y Coleg 83% o staff yn cwblhau’r cwrs ar-lein, Cwrs Croeso, sydd bellach yn rhan o raglen gynefino ac arfarnu staff y grŵp.

Mae’r holl staff ar draws y campysau bellach yn cyfarch ei gilydd yn Gymraeg ac yn defnyddio ymadroddion Cymraeg yn hyderus.

Dywedodd Angharad Morgan, Cyd-gysylltydd Datblygu Dwyieithrwydd: “Mae’n anrhydedd fawr i Grŵp Colegau NPTC dderbyn y wobr bwysig hon, sef ‘Cyflogwr Cymraeg Gwaith y Flwyddyn 2020’. Mae staff y Coleg wedi mwynhau’r cynllun Cymraeg Gwaith yn fawr iawn, ac yn sicr mae wedi cael effaith gadarnhaol ar eu datblygiad a’u hunanhyder o ran y Gymraeg. Erbyn hyn, mae’r staff ar y cynllun yn defnyddio’u Cymraeg mewn gwersi, gyda’u myfyrwyr a gyda’u cydweithwyr. Mae wedi bod yn gwrs cadarnhaol iawn i bawb dan sylw ac rydym yn ddiolchgar i Dysgu Cymraeg am ariannu cynllun mor wych!”

Os ydych yn fyfyriwr sy’n siarad Cymraeg neu eich bod eisiau dysgu, mae rhagor o wybodaeth am y Gymraeg yng Ngrŵp Colegau NPTC yma: https://www.nptcgroup.ac.uk/cy/parth-myfyrwr/yn-y-coleg/siarad-cymraeg-neu-eisiau-dysgur-gymraeg/

Os hoffech chi wybod rhagor am Dysgu Cymraeg, cliciwch yma: https://dysgucymraeg.cymru/