Academi Chwaraeon Llandarcy i fod yn Ysbyty Maes

Mae gwaith wedi dechrau ar weddnewid Academi Chwaraeon Llandarcy (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn ysbyty maes yng nghanol y pandemig COVID-19.

Mae’n un o ddau safle allweddol yn ardal Bae Abertawe a fydd yn cael eu trosi dros dro i gynnal hyd at 1,340 o welyau os bydd eu hangen yn yr wythnosau i ddod.

Yn ogystal ag Academi Chwaraeon Llandarcy, bydd Stiwdios y Bae yn Ffordd Fabian yn darparu gwelyau yn ogystal â’r rhai a grëwyd yn ysbytai Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot, wrth i gleifion allanol a mannau clinigol a chyhoeddus eraill gael eu hail-ddylunio.

Mae’r sector cyhoeddus, iechyd a’r sector preifat, ynghyd ag addysg bellach, yn cydweithio’n agos mewn ymateb digynsail gyda’r nod o ddiogelu iechyd a llesiant pobl sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Ei nod yw sicrhau y gall y GIG ymdopi â pha bynnag alwadau ddaw i’w ran yn ystod yr wythnosau i ddod.

Mae Grŵp Colegau NPTC, sy’n rhedeg Academi Chwaraeon Llandarcy, wedi cynnig ei adeilad i’w ddefnyddio fel ysbyty maes, ac mae gwaith wedi dechrau bellach i’w drawsnewid fel lle ar gyfer 340 o welyau ysbyty.

Bydd y contractwyr Andrew Scott yn darparu gorchudd llawr newydd yn yr ardal dan do ac yn adeiladu ciwbiclau ar gyfer y gwelyau, ynghyd â gosod y gwasanaethau angenrheidiol. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau o fewn tair i bedair wythnos.

Mae gan Stiwdios y Bae ar Ffordd Fabian sydd o fewn perchnogaeth breifat y potensial ar gyfer 1,000 o welyau os oes angen, ond disgwylir i’r rhain fod yn barod ar ôl rhai Llandarcy.

Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli ac yn goruchwylio gwaith adeiladu ar safleoedd y ddau ysbyty maes, gan alluogi staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ganolbwyntio ar gynllunio ehangu ei wasanaethau, staffio, ac ymdrin â materion iechyd eraill COVID-19.

Wrth i her COVID-19 gynyddu, bydd cleifion yn cael eu rheoli cyn belled ag y bo modd yn ysbytai a lleoliadau cymunedol presennol BIP Bae Abertawe, lle mae llawer iawn o waith paratoi wedi bod ar waith ers wythnosau, gan gynnwys gwaith adeiladu, hyfforddi staff a ehangu gallu’r gymuned.

Bydd gwelyau ychwanegol ar gael yn yr ysbytai presennol hefyd. Yn Ysbyty Treforys, bydd yr ardal cleifion allanol yn cael ei defnyddio fel gofod ward dros dro, yn ogystal ag ardal atriwm Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y gwelyau ysbyty trosiannol a sefydlir yn Llandarcy yn cael eu defnyddio fel y bo angen, ar gyfer cymysgedd o gleifion COVID-19 a chleifion eraill y mae angen gofal meddygol arnynt. Fodd bynnag, cânt eu nyrsio mewn ardaloedd ar wahân.

Bydd y gwelyau yn Stiwdios y Bae, os oes angen, ar gyfer cleifion sy’n llai sâl, ond nad ydynt yn ddigon abl i fynd adref. Nid oes cynlluniau i ddarparu gwelyau gofal dwys yn y naill ysbyty maes na’r llall, gan y gofelir am y cleifion mwyaf difrifol wael yn y prif ysbytai.

Fel arfer, mae Academi Chwaraeon Llandarcy yn cael ei defnyddio gan filoedd o fyfyrwyr yn ogystal â’r rhai sy’n hoff o gadw’n heini. Mae’r Gweilch hefyd yn defnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf fel eu maes hyfforddi.

Mewn lleoliad delfrydol, yn union oddi ar Gyffordd 42, bydd yn darparu lle ar gyfer gwelyau ychwanegol i gannoedd o bobl. Bydd yr arena 3G dan do (yr ysgubor), a’r gampfa sydd wedi croesawu timau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd rhyngwladol o bob rhan o’r byd yn cael eu troi’n wardiau i helpu i ymdrin â’r galw uchel a ragwelir.

Mae’r coleg yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod popeth yn ei le mewn da bryd. Mae’r coleg hefyd yn cyfrannu 400 o fygydau wyneb a gafwyd gan gydweithwyr yn ei sefydliad partner yn Chongqing -Tsieina.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC y byddai’r Coleg yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu yn y sefyllfa bresennol.

Dywedodd: “Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb. Mae angen i bob un ohonom gyd-dynnu a gwneud beth bynnag a allwn i helpu i fynd i’r afael ag argyfwng parhaus COVID-19 y mae pob un ohonom wedi’n heffeithio ganddo. Bydd y coleg yn gwneud beth bynnag a all i helpu i gefnogi ein cymunedau a’u pobl yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”

Diolchodd Wyn Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr y cyfleuster, i bawb am eu cefnogaeth.

“Mae ein defnyddwyr, sy’n cynnwys y Gweilch, Pêl-droed Menywod Abertawe, aelodau a llawer mwy yn gwbl gefnogol. Mae’n gyfnod heriol i bawb, ond rydym i gyd yn sylweddoli bod yn rhaid cymryd camau er mwyn i’r sefyllfa hon ddod i ben mor gyflym â phosibl.”

Dywedodd Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Rwy’n ddiolchgar ac yn falch dros ben o’r ffordd rydym wedi dod at ein gilydd fel rhanbarth i ymateb i heriau’r pandemig hwn. Mae agwedd gadarnhaol go iawn yn cael ei dangos, ac mae pobl yn benderfynol o wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu ein poblogaeth.

“Rydym yn gwerthfawrogi gwaith ein partneriaid allweddol, y ddau awdurdod lleol, a Grŵp Colegau NTPC am eu cymorth. Diolchwn, hefyd, i Roy Thomas, perchennog Stiwdios y Bae, am fod mor gymwynasgar a dyfeisgar ar fyr rybudd, a’r Gweilch, am fod yn ddigon caredig i roi’r gorau i’w lle hyfforddi yn Llandarcy.

“Ni fyddai’r ymateb hwn gan Fae Abertawe wedi bod yn bosibl heb i gynifer o sectorau ddod at ei gilydd a gweithio fel un.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones:

“Mae’n dda gweld arbenigedd llywodraeth leol a’r GIG yn dod at ei gilydd i gwrdd â heriau sylweddol argyfwng coronafirws. Mae hon yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth ar adeg o argyfwng.

“Mae darparu mwy o welyau i gleifion ar yr adeg hon yn mynd i fod yn hanfodol ac rydym yn hapus i chwarae ein rhan.”

Eglurodd Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe, y bydd Cyngor Abertawe a’i gontractwyr, i bob pwrpas, yn adeiladu’r ysbyty maes yn Stiwdios y Bae o ddim byd.

Nid yw cyflwr yr hen ffatri yn addas i’w throsi, felly bydd contractwyr yn adeiladu blwch enfawr o fewn cragen bresennol yr adeilad ac yn gosod goleuadau, pŵer, draenio ac awyru newydd cyn adeiladu’r ystafelloedd ysbyty.

Dywedodd: “Rydym yn wynebu heriau enfawr ac mae’r cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi’r cyhoedd yn ystod yr argyfwng hwn.

“Rwyf mor ddiolchgar i’n staff am weithio ar gyflymder rhyfeddol i gael popeth yn ei le i droi stiwdio wag yn ysbyty maes. Maen nhw wedi bod yn gweithio rownd y cloc i gynllunio’r ysbyty a chanfod deunyddiau a chyflenwadau fel y gallwn ni fwrw ati ar unwaith.”