Coleg Arobryn yn Cyrraedd Rownd Derfynol y Gwobrau Ymadawyr Ysgol Unwaith Eto

Mae’r enwebiadau i mewn, ac am yr ail flwyddyn yn olynol mae Grŵp Colegau NPTC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Ymadawyr Ysgol 2020.

Mae’r Gwobrau Ymadawyr Ysgol yn dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaeth. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol yn y DU, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

Unwaith eto, mae’r Coleg wedi gwneud yn arbennig o dda yn y gwobrau, gan gyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori; y Darparwr Prentisiaethau Gorau yn y DU; y Coleg Addysg Bellach Gorau ar gyfer Hyfforddiant Prentisiaethau yn y DU, a’r Profiad Dysgu Gorau.

Cynhyrchir y rhan fwyaf o’r rhestrau byr gan yr adborth a gasglwyd gan brentisiaid sy’n gweithio mewn sefydliad ar hyn o bryd. Cwblhaodd prentisiaid arolygon yn dadansoddi popeth am eu cyflogwyr a’u rhaglenni hyfforddiant, o ddatblygu sgiliau a dilyniant gyrfa i hyfforddiant a diwylliant y cwmni. Mae nifer o restrau byr, sy’n cynnwys y wobr bwysig Ymadawr Ysgol y Flwyddyn, yn cael eu penderfynu gan banel o feirniaid arbenigol annibynnol. Mae panel beirniadu myfyrwyr annibynnol yn penderfynu ar ddwy o’r gwobrau.

Mae’r enwebiadau yn cynnwys enwau proffil uchel o fyd y banciau a chyllid, cewri eiddo a llety, arloeswyr mewn TG a thechnoleg ac arweinwyr y sector cyfreithiol. Mae pob un wedi cael eu henwebu o ganlyniad i’w gwaith arloesol o ran datblygu a chynnal cyfleoedd i ymadawyr ysgol: Prentisiaethau Canolradd, Uwch Brentisiaethau, Prentisiaethau Uwch, Prentisiaethau Gradd a rhaglenni i ymadawyr ysgol.

Yn 2019 roedd y gwobrau newydd yn rhai wedi’u neilltuo’n llwyr i ddarparwyr hyfforddiant, a gafodd eu harolygu ar eu haddysgu, eu hasesu a’u hadborth, eu profiad dysgu a’u cymorth personol.  Daeth Grŵp Colegau NPTC i’r brig yng Nghymru ym mhob categori ac yn y DU gyfan fe’i gosodwyd yn yr ail safle ar gyfer addysgu; yn bedwerydd am y profiad dysgu; yn bumed wrth ddarparu cymorth personol ac yn 10fed ar gyfer asesiadau ac adborth.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC a oedd wrth ei fodd gyda’r enwebiad: ‘Mae ein myfyrwyr bob amser yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud yng Ngrŵp Colegau NPTC, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig eu bod wedi pleidleisio’n annibynnol ar gyfer y gwobrau hyn am flwyddyn arall. Mae cyrraedd y rowndiau terfynol ar gyfer y Darparwr Hyfforddiant Gorau a’r Darparwr Addysg Bellach Gorau yn wych ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad y staff yma yn y Coleg, ond rydym yn bennaf oll yn llawn cyffro i gael ein henwebu yng nghategori’r profiad dysgu gorau, gan fod cynnig ‘mwy nag addysg yn unig’ yn werth craidd yn y Coleg ac yn sail i bopeth a wnawn.”

Cynhelir y Gwobrau Ymadawyr Ysgol ar ddydd Iau 3 Medi 2020 yn Grosvenor House, Llundain, dan ofal Rylan Clark-Neal.