Sut Newidiodd Grŵp Colegau NPTC fy Mywyd

Gan Ceinwen Burnside

Symudodd fy ngŵr a minnau dramor yn 2004, lle bûm yn addysgu fy 3 merch gartref. Oherwydd amgylchiadau, yn 2014, cefais fy ngorfodi i ddychwelyd i Gymru – heb waith, arian, cartref na gobaith. Fe wnes i aros gyda theulu a ffrindiau a dod o hyd i amryw o swyddi rhan-amser. Roeddwn i ar feddyginiaeth ar gyfer poen cefn ac iselder – dyna oedd pwynt isaf fy mywyd.

Daeth dwy o’m merched i fyw gyda mi yn y DU, a llwyddasom i rentu fflat. Aeth fy merch ieuengaf i’r ysgol uwchradd, ond cofrestrodd fy merch ganol a minnau ar gyrsiau yng Ngholeg y Drenewydd (rhan o Grŵp Colegau NPTC). Dechreuodd hi ar gwrs BTEC Lefel 3 a dechreuais i gwrs hyfforddi athrawon TBAR tra’n parhau i weithio’n rhan-amser fel cynorthwyydd gofal.

Yn ystod y cwrs TBAR dwy flynedd, cefais gyfle i wneud ymarfer dysgu yng Ngholeg Llandrindod a Choleg Bannau Brycheiniog (sydd hefyd yn rhan o Grŵp Colegau NPTC). Yn y pen draw, graddiais yn 2017 a phasiodd fy merch ei chwrs BTEC Lefel 3 gyda rhagoriaeth serennog driphlyg. Yn ystod ei hamser yn y Coleg, llwyddodd hefyd i ennill cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ac mae bellach yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol. Yn 2018, dechreuais weithio’n rhan-amser yng Ngholeg Bannau Brycheiniog fel cynorthwyydd cymorth astudio ac yna, yn 2019, ymgymerais â rôl hyfforddwr sgiliau astudio hefyd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi cael profiad o’r Coleg o safbwynt rhiant, myfyriwr a chyflogai. Gallaf ddweud yn onest bod pob aelod o staff yr wyf wedi cwrdd â nhw wedi bod yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar. Mae gweithio yn y Coleg fel bod yn rhan o deulu oherwydd mae pawb yn ofalgar ac yn gefnogol. Bum mlynedd yn ôl, yr oeddwn yn ddi-waith, heb arian na chartref, ond erbyn hyn mae gennyf gartref ac nid wyf bellach yn dibynnu ar fudd-daliadau gan y llywodraeth. Mae gen i yrfa foddhaus ac rwy’ mor ddiolchgar bod Grŵp Colegau NPTC wedi newid fy mywyd.