Y Saith Seren

Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio Gwe.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi’i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

Bu myfyrwyr o golegau ledled Cymru yn cystadlu mewn sawl cystadleuaeth ar draws ystod o sectorau gan gynnwys TG, peirianneg, arlwyo, a therapi harddwch rhwng Ionawr a Mawrth.

Roedd Eira Williams, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadura a TG wrth ei bodd: “Rwy’n hynod o falch o’r holl fyfyrwyr a fu’n cystadlu, mae’n gyflawniad arbennig sy’n dangos y dalent sydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i’r arbenigedd a’r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu.  Mae cyflawniad ar ein cyrsiau cyfrifiadura eisoes yn 99% a daeth 100% o’n myfyrwyr Gradd  o hyd i gyflogaeth mewn diwydiannau cysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis o raddio y llynedd, sydd eto’n dangos ansawdd yr addysgu o fewn yr ysgol.”

Mae’r enillwyr yn cynnwys:

Joshua Roberts: Arian, Seiberddiogelwch

Mitchell Wilkes: Arian, Seiberddiogelwch

Alex Griffiths: Efydd, Seiberddiogelwch

Dylan Rogers: Efydd, Seiberddiogelwch

Dewi James: Arian, Sgiliau Codio

Luke Wooley: Arian, Dylunio Gwe

Jamie Mellin: Efydd, Dylunio Gwe

 

Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â Grŵp Colegau NPTC!

Cliciwch yma i wneud cais am gwrs mewn cyfrifiaduron neu dechnoleg ddigidol