Y Rheng Flaen

Nid yw’r gydnabyddiaeth ar gyfer gweithwyr rheng flaen erioed wedi’i gwerthfawrogi’n fwy yn y cyfnod modern nag y mae ar hyn o bryd, wrth i ni edrych gydag edmygedd ar y gwaith y mae ein gweithwyr iechyd a’n gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus proffesiynol ynghyd â llawer o staff rheng flaen eraill yn ei wneud wrth gefnogi’r argyfwng presennol.

Mae Grŵp Colegau NPTC bob amser yn falch o glywed sut mae cyn ddysgwyr wedi symud ymlaen a sut mae myfyrwyr yn helpu yn y sefyllfa bresennol.  Roeddem yn falch iawn o glywed yn ddiweddar gan Joe Dunn, sy’n gyn ddysgwr ar y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg y Drenewydd.  Cymhwysodd Joe o Goleg y Drenewydd gyda Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Derby ar y Radd mewn Plismona Proffesiynol. Mae bellach wedi cwblhau ei radd yn llwyddiannus a bydd yn dechrau fel Cwnstabl yr Heddlu gyda Heddlu Swydd Derby ym mis Mai.

Mae Joe o Cross Gates yn dweud ei fod yn awyddus i ddechrau yn y swydd. ‘Mae angen mawr am bersonél rheng flaen yn awr ac mae’n teimlo’n beth cadarnhaol i fod yn weithiwr allweddol sy’n gallu cefnogi’r system’.

Meddai’r darlithydd Ciaran Wheeldon ar y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus: “Dyma beth yw hanfod Coleg Addysg Bellach. Gosod y sylfeini i ddysgwyr fynd i’r gyrfaoedd o’u dewis. Rydym yn gwneud llawer o waith partneriaeth gyda’r heddlu, ac mae myfyrwyr yn cael cipolwg gwirioneddol dda ar bob maes o fewn eu rolau.  Rydym yn ymdrin â sesiynau megis plismona ar y ffordd, ymateb arfog, amddiffyn ac erlyn, stopio a chwilio, ymweliadau â’r carchar, sesiynau gydag unedau cŵn yr heddlu ac rydym hyd yn oed wedi cael ymarfer ar gyfyngu ar symudiad yn dilyn ymosodiad gan derfysgwyr.  Mae’n wych gweld myfyrwyr yn gallu adeiladu ar y sgiliau y maen nhw wedi’u dysgu gyda ni yn eu dewis yrfaoedd.”

Darganfyddwch fwy am ein cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yma: www.nptcgroup.ac.uk/cy/schools/chwaraeon-a-gwasanaethau-cyhoeddus/