Hwyl i fyfyrwyr Coleg y Drenewydd yn y cyfnod cyfyngu ar symudiad

Er ei bod yn amser gofidus ac ansicr, mae’n bwysig i’n hiechyd meddwl i ddod o hyd i ffyrdd o ddiddanu ein hunain, a chael hwyl. Mae myfyrwyr wedi dod o hyd i lawer o ffyrdd i gysylltu; mae apps a gemau ar-lein wedi dod â thon newydd o greadigrwydd ac maent hefyd yn ffordd o ganolbwyntio ar y pethau y gallwn eu rheoli.

Mae myfyrwyr y cyfryngau o Goleg y Drenewydd wedi canfod eu bod yn gallu dod at ei gilydd ac adeiladu’n greadigol o fewn y byd gemau. Crëwyd ystyr newydd i’r gêm ‘Dungeons and Dragons’ ar ffurf ‘Myfyrwyr a Dreigiau’, ac ynghyd â’u darlithydd, mae myfyrwyr wedi bod yn chwarae gyda’i gilydd mewn antur ar-lein lle maent wedi cael eu telegludo i fyd rhyngdestunol rhyfedd yn llawn o gyfeiriadau ffilm a gemau fideo. Ar unrhyw adeg, gall fod hyd at 10-15 o chwaraewyr ar draws yr adrannau Creadigol a Chyfryngau. Mae’n sesiwn rith ar gyfer treulio amser gyda’ch ffrindiau. Byd cymdeithasol diogel lle mae myfyrwyr yn parhau i gysylltu ac ysbrydoli meddyliau creadigol.

Mae ein Hadran Celf a Dylunio wedi bod yn ail-greu paentiadau enwog gyda delweddau ohonynt eu hunain. Mae’r duedd hon hefyd wedi dod yn boblogaidd ar draws y cyfryngau cymdeithasol gydag Instagram yn llawn delweddau o Cleopatra i The Scream gan Edvard Munch, yn aml yn bortreadau blaenorol â naws fodern.Mae’r Adran Celfyddydau Perfformio wrthi’n cynhyrchu fersiwn o’r sioe gerdd ‘Little Shop of Horrors’ drwy goladu eu recordiadau unigol o bob myfyriwr yn perfformio eu rolau.

Mae’n amser prysur yn y calendr ffermio hefyd ac mae myfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd wedi bod yn rhoi sgiliau ar waith i gefnogi’r tymor ŵyna. Yn Fferm Fronlas mae’r mamogiaid Cymreig wedi bod yn ŵyna ac mae’r darlithydd Neil Bowden wedi parhau i roi cyngor ar Twitter gan ddefnyddio’r diweddaraf mewn arfer gorau wrth dagio. Yn y cyfamser, mae’r bustych Friesiaidd yn cael gofal dan do yn y sied am y tro. Y diweddaraf i gyrraedd y sied yw llo Charolais mawr. Allan ar y tir, mae gwrtaith wedi’i wasgaru mewn pryd ar gyfer y tywydd cynhesach i helpu wrth i’r glaswellt ddechrau tyfu.

Mae’r myfyrwyr BTEC Lefel 3 blwyddyn gyntaf  Bethan Rees a Jack Matthews wedi bod yn gweithio’n galed hefyd dros wyliau’r Pasg. Gwnaethant ymgymryd â’r gwaith heriol o helpu gyda glanhau dwfn yn safleoedd y GIG.  Cofrestrodd y ddau fel gwirfoddolwyr drwy’r contractwr Benji & Co yn Llanidloes i gynnal glanhau dwfn yn Ysbyty Southmead ym Mryste.  Ar ôl ychydig o ddyddiau heriol gofynnwyd i’r ddau gymryd rhan yn y gwaith o ddosbarthu wyau Pasg. Gwnaethant helpu i ddosbarthu 15,000 ar gyfer staff a chleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste.  Gwaith hwylus iawn – da iawn bawb.