Mae popeth yn ‘Dda ‘ yng Ngrŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC yn cyflawni ei waith yn dda iawn, ac mae hyn yn swyddogol yn ôl Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Llwyddodd Grŵp Colegau NPTC, a sefydlwyd yn 2013 pan unodd Coleg Castell-nedd Port Talbot â Choleg Powys, i gipio graddau ‘da’ drwyddo draw mewn adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn dilyn arolygiad ym mis Chwefror.

Dyma’r arolygiad cyntaf ers yr uno, ac yn ôl Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth,’ Roedd cyflawni’r radd yn deyrnged wirioneddol i waith caled, ymroddiad a thalent staff a myfyrwyr. ‘

Mae’r Coleg yn gwasanaethu ardal amrywiol, yn ymestyn o rai o’r ardaloedd mwyaf gwasgaredig yng Nghymru o ran eu poblogaeth, ym Mhowys, i ardaloedd mwy trefol Castell-nedd Port Talbot ac roedd Estyn yn cydnabod bod ‘gan y Coleg synnwyr brwd o gyfrifoldeb tuag at y cymunedau amrywiol y mae’n eu gwasanaethu’, gan gynnig ystod eang o ddarpariaeth, ‘sy’n diwallu anghenion ei ddysgwyr ar draws ardal ddaearyddol fawr a heriol’.

Nododd yr adroddiad fod ‘ tîm arweinyddiaeth y coleg yn sefydledig a chydlynol a bod ‘cyfeiriad clir ac uchelgeisiol i waith y coleg. ‘  Dywedodd yr adroddiad fod arweinwyr yn gweithio’n fedrus i nodi a manteisio ar gyfleoedd i integreiddio gwaith y coleg â gweithgareddau cymunedol a chefnogi cyfleusterau lleol. Tynnwyd sylw at y pwll nofio cymunedol yng Nghwm Afan y cymerodd y coleg gyfrifoldeb amdano pan oedd ar fin gau, gan alluogi’r cyfleuster i aros ar agor, er mwyn cefnogi iechyd a llesiant pobl yn yr ardal. Mae’r adroddiad hefyd yn sôn am ymgysylltiad y coleg â chyflogwyr ar draws amrediad daearyddol  coleg sy’n ‘helpu i ffurfio darpariaeth y coleg i ddiwallu’r angen lleol’. Mae fforymau cyflogwyr targedig y coleg yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion datblygu economaidd a chymdeithasol.’

Mae gan Grŵp Colegau NPTC dros 7,250 o fyfyrwyr sy’n teimlo’n ddiogel yn y coleg ac sy’n gwybod ble i droi am ystod eang o gymorth os bydd angen. Mae dysgwyr yn teimlo bod y Coleg yn gwrando ar eu hanghenion a’u pryderon, yn ôl yr arolygwyr.

At ei gilydd, ‘mae dysgwyr yn cynhyrchu gwaith o safon gref yn eu gwersi a’u sesiynau ymarferol.  Maent yn meithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ac yn datblygu eu medrau academaidd, galwedigaethol ac ymarferol ar lefel briodol.  Ar raglenni galwedigaethol, mae dysgwyr yn datblygu ac yn cymhwyso cymwyseddau ymarferol a galwedigaethol defnyddiol ac yn datblygu medrau galwedigaethol ar lefel uwch ac yn gwella eu hyder personol trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau medrau. Mae dysgwyr yn datblygu ymddygiadau sy’n cefnogi eu dyheadau gyrfa ac yn teimlo bod y Coleg yn eu paratoi’n dda ar gyfer dilyniant i ddysgu ar lefel uwch ac ar gyfer cyflogaeth.’

Yn ôl yr adroddiad: ‘mae athrawon yn meddu ar gymwysterau a phrofiad da, gyda phrofiad defnyddiol ym maes diwydiant, masnach a busnes defnyddiol y maent yn ei gymhwyso’n dda i’w rolau.  Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o’u dysgwyr ac maent yn eu herio i ddatblygu gwybodaeth, cynhyrchu gwaith ymarferol a chwblhau tasgau theori i safon uchel.  Mewn dosbarthiadau Safon Uwch, mae’r athrawon yn cyflwyno sesiynau bywiog sy’n ennyn diddordeb y dysgwyr yn dda.  Maent yn helpu i strwythuro dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau, ac yn eu hannog i ddatblygu diddordebau pynciol ehangach.’

Mae’r adroddiad yn parhau: ‘ Mae myfyrwyr yn teimlo bod eu rhaglen ddysgu yn eu helpu i wella eu medrau bywyd, eu rhagolygon cyflogaeth a’u dealltwriaeth o gadw’n iach a diogel, gan gynnwys pan fyddant ar-lein. ‘

Nododd yr arolygwyr fod dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi gwerth chweil i wella eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy’n ‘cyfrannu’n werthfawr at weithgareddau â ffocws cymunedol’, fel codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl a helpu ysgolion lleol gyda phrosiectau amrywiol.

Dywedodd Mr Dacey: “Rwy’n falch o Grŵp Colegau NPTC. Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r staff yn gweithio ac maent yn dangos eu hymrwymiad sylweddol bob dydd i roi’r cyfleoedd gorau posib i’n myfyrwyr. “