Myfyriwr Teithio a Thwristiaeth yn mynd y filltir ychwanegol

Mae’r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn disgleirio ar fyfyriwr enghreifftiol, Ffion Williams, wrth iddi gyrraedd diwedd ei chwrs.

Mae Ffion wedi bod yn fyfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC am ddwy flynedd wrthi’n astudio Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth. Drwy gydol y blynyddoedd hyn, mae Ffion wedi dangos staff ei bod hi’n unigolyn hyderus, diwyd sydd bob amser yn arloesgar.

Ymhlith y priodoleddau a ddelir gan Ffion, mae hi’n gymeradwy fel aelod o dîm ac yn allblyg ac yn dosturiol ym mhopeth a wna. Mae hi’n wydn iawn wrth wynebu heriau a gellir dibynnu arni i roi 100% ar bob adeg.

Mae Ffion wedi datblygu ac ehangu ei gwybodaeth yn ystod ei hamser yn y Coleg trwy ymgymryd â phrofiad gwaith a chwblhau gwobr efydd ac arian Dug Caeredin. Gwirfoddolodd hefyd mewn ysgol leol lle yr oedd yn gweithio’n agos gyda phlant ag anawsterau dysgu cymhleth. Ar ben hyn, mae gan Ffion brofiad o weithio mewn gwesty prysur sydd wedi ei galluogi i ennill sgiliau perthnasol ar gyfer y diwydiant twristiaeth.

Mae wedi datblygu sgiliau ychwanegol drwy astudio’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC), gan gynnwys bod yn unigolyn cyfrifol,  dangos ymwybyddiaeth, arweinyddiaeth a sgiliau trefnu. Credwn y bydd y sgiliau hyn yn ei galluogi i fod yn llwyddiannus yn y brifysgol a’r byd gwaith yn y dyfodol.

Mae Ffion, sydd â graddau disgwyliedig D *, D *, D *, (sy’n cyfateb i dri A*, Safon Uwch) yn bwriadu astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Southampton. Eglurodd mai awydd i roi ei hunan mewn esgidiau pobl eraill, gweld y materion o bersbectif newydd, a chael ymdeimlad o gyfiawnder sydd wedi cymell ei dewis.

Mae Ffion yn unigolyn unigryw a fydd yn gwneud argraff ar bawb y mae hi’n cyfarfod â hwy. Mae’r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn dymuno’n dda iddi ac mae’n gyffrous gweld pa gyfleoedd a fydd ar gael iddi yn y dyfodol!

Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â ni, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am gyrsiau busnes, twristiaeth neu reolaeth, gallwch ddod o hyd iddynt i gyd yma yn:

Cyrsiau Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth