Partneriaid Grŵp Colegau NPTC i Gyflwyno Sgiliau Pob Dydd

Mae Grŵp Colegau NPTC, mewn cydweithrediad â Choleg Cambria, Coleg Gwent a Dysgu Oedolion Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i lansio pecyn newydd o gyrsiau ar-lein mewn sgiliau Mathemateg a Saesneg pob dydd.

Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i roi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i eistedd ochr yn ochr â chyrsiau addysg bellach eraill, gwella’r rhagolygon am swyddi neu ddysgu sgiliau newydd ac maent ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Oherwydd y Coronafirws, cynhaliwyd y digwyddiad lansio ar-lein ac fe’i mynychwyd gan gynrychiolwyr o golegau a phrifysgolion ledled Cymru.

Rhoddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru araith ar fanteision dysgu ar-lein a gwaith partneriaeth.

“Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl y mae cyflogadwyedd a sgiliau yn ei chwarae o ran sicrhau bod gan bobl fynediad i gyflogaeth, fel y gallwn lunio economi fwy teg a chyfiawn,’ meddai. ‘Mae pawb yn wynebu heriau a rhwystrau o ran cyrchu cyflogaeth. Mae rhai pobl yn wynebu mwy o heriau nag eraill. Ond fe wnaethom sefydlu Cymru’n Gweithio y llynedd er mwyn sicrhau bod pob unigolyn yn cael pecyn cymorth pwrpasol wedi’i deilwra’n arbennig i’w rhoi ar y llwybr tuag at gyfleoedd cyflogaeth da.”

Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, datblygu a darparu Sgiliau Pob Dydd mewn Saesneg a Mathemateg Lefel 1 a Lefel 2, a chymerodd y coleg rôl arweiniol hefyd ar ddatblygu deunyddiau brandio a hyrwyddo’r prosiect i’w defnyddio gyda phob partner.

Dywedodd Geraint Jones – Pennaeth y Cwricwlwm yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Rydym yn deall y gall dychwelyd i addysg fod yn brofiad brawychus a heriol i rai dysgwyr. Bydd y cyrsiau Sgiliau Pob Dydd ar-lein yn ffordd ddelfrydol o alluogi’r dysgwyr hyn i wella a datblygu eu sgiliau yn ôl eu pwysau, a phryd bynnag a lle bynnag y dymunant”.

Cafodd Andrea Davies – Cydlynydd Traws-Golegol SHC adborth cadarnhaol gan ei dysgwyr a oedd ymhlith y rhai cyntaf i ddilyn y cyrsiau newydd: “Cwblhaodd fy nysgwyr y Lefel 1 mewn Saesneg. Roeddent o’r farn bod y cwrs yn ddiddorol, ac yn hoffi’r ffaith eu bod yn gallu ei gyrchu gartref ac yn y coleg a’i gwblhau yn eu hamser eu hunain. Roeddent yn teimlo ei fod o fudd iddynt ac yn helpu i wella eu sgiliau.”

Dywedodd y myfyriwr Mynediad Sylfaen Karen Armitage, “Roedd yn hawdd ei ddilyn, ac fe helpodd gyda’r adolygu Saesneg yn barod ar gyfer ein hasesiad terfynol”.

Mae’r sector addysg wedi gorfod arloesi ac addasu i anghenion newidiol yn ystod argyfwng Covid-19, sydd wedi gweld cynnydd yn y galw am ddysgu ar-lein. “Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld pobl yn troi at ystod eang y Brifysgol Agored o adnoddau dysgu ar-lein fel ffordd o loywi hen sgiliau, dysgu rhai newydd, a chynnal eu llesiant yn ystod y cyfnod cloi,” meddai Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Wrth sôn am ymateb y sector addysg ôl-16 i argyfwng Covid-19, ychwanegodd y Gweinidog:

“Bydd coronafirws yn parhau i’n herio ni. Bydd yn parhau i achosi trasiedi. Bydd yn parhau i effeithio ar ein heconomi. Ond fe allwn ni ymateb yn briodol, a rhaid i ni wneud hynny, gan sicrhau ein bod yn atal pobl rhag profi cyfnodau hir o ddiweithdra.

Mae’r ffordd y mae’r rhwydwaith darparwyr ôl-16 wedi camu i fyny yn ystod y coronafirws i addasu a newid i amgylchiadau dynamig wedi gwneud argraff anhygoel arnaf. Ac wrth gwrs, ym mis Mai cyhoeddwyd y cydnerthedd ar gyfer y rhwydwaith darparwyr ôl-16. Ond yn awr rydym yn dymuno adeiladu ar y cynllun hwnnw, ac rydym am sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cyfle – os ydynt ei angen ac yn dymuno hynny – i gael mynediad at gymorth, hyfforddiant a chyngor i’w cael yn ôl i waith. Neu, os ydynt yn gadael yr ysgol, i’w cael i mewn i rôl hyfforddiant neu addysg dda, neu gyflogaeth, cyn gynted ag y bo modd.”

Gallwch gael mynediad i’r Cyrsiau Sgiliau Pob Dydd am ddim ar safle OpenLearn y Brifysgol Agored yng Nghymru: