Naws Gadarnhaol i Fyfyrwyr mewn Erthygl Cylchgrawn

Mae myfyrwyr o’r ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio wedi bod yn anhygoel o brysur drwy’r pandemig yn ogystal â gwyliau’r haf. Mae Safiyyah Altaf, Dione Jones ac Isabella Coombs   wedi creu a chyfrannu cynnwys i’r cylchgrawn ‘Just My Cup of Tea’.

Mae’r cylchgrawn yn llawn erthyglau cadarnhaol ac yn cynnwys gwaith celf a cherddi, ynghyd â dyfyniadau gan gyfranwyr yn sôn am eu hoff bethau i’w gwneud mewn bywyd. Mae Safiyyah yn dweud wrthym sut y cafodd ei chynnwys:

“Roeddwn eisoes wedi creu’r gwaith celf a’r farddoniaeth cyn dod ar draws y cylchgrawn drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd estheteg y cylchgrawn mor galonogol a hardd, roeddwn i eisiau rhannu fy ngwaith gyda nhw. Anfonais fy ngwaith at y crëwyr a daethant yn ôl gydag adborth cadarnhaol a fy nghynnwys yn y rhifyn ‘Summer Skies’, ac roeddwn mor hapus am hynny.”

Mae’r cylchgrawn wedi dod yn ffordd wych i fyfyrwyr ddechrau ar ychydig o hunan-archwilio yn ystod y cyfyngiadau symud, sef adeg pan fydd llawer yn teimlo o dan straen ac yn ynysig. Gan annog arferion iach ac ochr gadarnhaol y cyfyngiadau symud, mae Safiyyah’n mynd ymlaen i ddisgrifio ei phrofiad:

“Ysbrydolwyd y farddoniaeth a’r darn o waith celf oedd yn mynd gyda hi gan fy amser ar ddechrau’r cyfyngiadau symud. Lle yn sydyn daeth yr holl bentwr o waith a chymdeithasu i ben yn sydyn a doeddwn i ddim yn gallu mynd i unrhyw le ond o gwmpas y tir y tu ôl ac o amgylch fy nhŷ heb unrhyw gyswllt â phobl eraill. Roeddwn i o dan dipyn o straen ac yn nerfus am dreulio amser o dan gyfyngiadau symud ond roedd ysgrifennu dyddlyfr dyddiol gyda chelf a barddoniaeth yn helpu. Yn ogystal â gwehyddu gyda deunyddiau y des o hyd iddynt a oedd hefyd wedi’i gynnwys yn y cylchgrawn. “

“Mae’r goeden wedyn yn symbol o’r teimlad hwn o fod yn mewn cawell ond yn dal i ddod o hyd i brosiectau ac eiliadau lle gallaf dyfu allan o ffiniau’r cyfyngiadau symud a datblygu fy ymarfer artistig yn unigol. Mae’r delweddau o greigiau a chewyll a deunyddiau celf a gafwyd wrth chwilota o fewn y gerdd a’r sgets wedi’u hysbrydoli gan y teithiau cerdded yr oeddwn yn gallu eu gwneud a helpodd i leddfu’r hiraeth am fethu â gweld y bobl a oedd yn golygu fwyaf i mi, tra hefyd yn dod o hyd i gysylltiad newydd â natur a’r amgylchedd. Roedd y cylchgrawn yn gyfle gwych i gyfleu fy emosiynau o fewn  cymuned sy’n rhannu’r un teimladau â fi. Roedd hyn yn rhoi ymdeimlad gwych o obaith a llawenydd i’r gymuned artistig drwy gydol y cyfyngiadau symud.”


Cafodd waith celf Dione sylw hefyd yn y cylchgrawn.

Mae hi’n esbonio’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w harddull:

“Yn y darnau hyn rwy’n archwilio fy mherthynas gymhleth â ffeministiaeth, hunanfynegiant a hunaniaeth. Rwy’n gweithio gyda hunanbortreadau yn bennaf gan fod fy ngwaith fel arfer yn troi o gwmpas fy meddyliau a’m teimladau fy hun, a dyma lle rwy’n cael fy ysbrydoliaeth. Mae’r darnau cyfryngau cymysg hyn yn chwarae ar fenyweidd-dra a’r ddelwedd yr ydym yn gyfarwydd â’i gweld o oedran ifanc. Dysgir ni i weld benyweidd-dra a gwrywdod fel  cyferbyniadau deuaidd.

Roedd gen i’r holl deimladau hyn doeddwn i ddim yn meddwl eu bod yn ‘fenywaidd’. Mae troi fy hun yn ddol mewn ‘Doll Parts’ yn mynegi hyn yn uniongyrchol ac mewn modd ychydig yn ddoniol hefyd, gyda minnau’n awyddus i reoli’r ffordd rwy’n edrych fel petawn i’n wrthrych i mi fy hun ac yn ymdrechu i blesio llygaid pobl eraill. Ond yn ‘Eyes for you’ mae’n rhoi sylw i ba mor aml y mae merched yn ddiarwybod yn perfformio mewn ffordd i deimlo’n ‘fenywaidd’ ac yn ‘ddel’.

Rwy’ wedi fy hudo gan ddoliau a sut, o oedran ifanc, y mae’r teganau hyn yn cael eu rhoi i ferched yn ddigon diniwed ond yn y pen draw, maent yn symbol o rywbeth mwy tywyll efallai; harddwch a pherffeithrwydd anghyraeddadwy ac afrealistig. Roeddwn i am i’r darnau hyn fod mor binc a meddal fel eu bod nhw’n droëdig, gan ddangos sut mae’r meddalrwydd hwn yn cael ei wthio i’n hwynebau o oedran ifanc.”


Cyfrannwr arall oedd Isabella, a anfonodd ddarluniau a dyfyniadau i olygyddion y cylchgrawn.

Siaradodd Vicky Burroughs, Pennaeth yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, am ei chyn fyfyrwyr:

“Roedd yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio mor falch o glywed bod gwaith celf a cherdd Safiyyah wedi cael eu cyhoeddi gan y cylchgrawn ar-lein ‘Just My Cup of Tea’.  Mae hyn wir yn dangos penderfyniad, ymrwymiad a thalent Safi y mae hi wedi’i ddangos erioed drwy gydol ei Safon Uwch mewn Tecstilau, wedi’i chydlynu a’i haddysgu gan y darlithydd Sarah Holmes.  Mae gan Safi yrfa addawol iawn o’i blaen yn y Diwydiannau Creadigol ac roeddem hefyd yn falch iawn o weld gwaith Safi yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â chyn fyfyrwyr CVP, Dione Jones ac Isabella Coombs.  Da iawn a phob lwc Safi gyda dy astudiaethau gradd mewn Dylunio Patrymau Arwyneb yng Ngholeg Celf Abertawe (PCYDDS).”

Eisiau gwybod rhagor? Gallwch gael copi digidol o’r cylchgrawn yma.

Instagram y Cylchgrawn – @justmycupofteamag