Theatr Hafren i barhau fel Canolfan Profi Coronafirws

Mae Theatr Hafren (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi cael gwybod y bydd yn parhau fel Uned Profi Coronafirws, fydd ar agor i’r cyhoedd tan fis Rhagfyr.

Dechreuwyd cynnal profion rhanbarthol ar gyfer Covid-19 yn y theatr, a leolir yng Ngholeg y Drenewydd, yn ôl ym mis Mai, i’r unigolion hynny y gofynnwyd iddynt ddefnyddio’r cyfleuster. Sefydlwyd y ganolfan profi gyrru trwodd ar y cyd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Bwrdd Addysgu Iechyd Powys ac mae’n defnyddio’r maes parcio bach, blaen yn ogystal â chyfleusterau cefn llwyfan y theatr. Mae ganddi’r gallu i brofi tua 100 o bobl y dydd ac mae wedi gweld cannoedd yn dod drwodd hyd yn hyn.

Mynegodd Hafren eu cefnogaeth gan ddweud: ‘Mae gallu hwyluso’r ddarpariaeth hon, gan alluogi’r gwasanaeth iechyd i gyrraedd ei dargedau cenedlaethol ar gyfer profi, yn anhygoel. Er mwyn cefnogi’r gymuned gyda phrofion hanfodol, bwriedir i’r gwasanaeth hwn barhau tan fis Rhagfyr, gan lynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru”.

Nid yw’r theatr, er ei bod yn darparu nifer o weithgareddau ar-lein, yn gallu dangos perfformiadau byw ar hyn o bryd ac felly nid yw’n cael ei defnyddio gan y cyhoedd. Mae’r profion hyn yn digwydd yn ddiffwdan felly ni fyddant yn cael unrhyw effaith ar fyfyrwyr sy’n dechrau neu’n dychwelyd i’r Coleg yn ystod y misoedd nesaf.

Diogelwch a llesiant myfyrwyr a staff y coleg a’r cyhoedd yw’r flaenoriaeth bennaf o hyd, a bydd y coleg yn parhau i ddilyn cyngor ac arweiniad Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae cynlluniau ar waith i ddarparu dysgu cyfunol o fis Medi ar draws pob safle’r coleg, ond caiff y sefyllfa hon ei monitro’n ofalus iawn. Mae cyfleusterau o amgylch y coleg yn cael eu hadolygu i’w defnyddio a lluniwyd canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol i’r cyfleusterau hyn, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth a gweithdai yn ogystal â’r holl gyfleusterau cynadledda.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC:

“Gan fod Coleg y Drenewydd a Theatr Hafren wrth galon y gymuned, mae’n fy ngwneud yn hynod o falch ein bod, drwy’r cyfnod anodd hwn, wedi gallu addasu ein cyfleusterau i wasanaethu ein cymuned leol yn well gyda’r profion hanfodol hyn. Rydym wedi croesawu darpariaeth ar-lein nid yn unig yn academaidd, ond gyda’r Hafren yn parhau i ddarparu rhai gweithdai celf, dawns a theatr ar-lein arbennig yn rhad ac am ddim i bob oedran”.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau a gweithdai ar-lein yn Hafren ewch i www.thehafren.co.uk, facebook.com/hafrennewtown a twitter.com/hafren_newtown.