Canlyniadau o’r radd uchaf ar gyfer Grŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC wrthi’n llongyfarch ei holl fyfyrwyr sy’n cael eu canlyniadau heddiw ar ôl blwyddyn na allai unrhyw un fod wedi’i rhagweld. Yn wyneb pandemig byd-eang, llwyddodd y coleg i gynnal ei gyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant a chyflawnodd y nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y coleg.

Gwelwyd cynnydd eithriadol i 20 y cant o ran canlyniadau A *- A yn y coleg gyda myfyrwyr yn cyflawni cyfradd basio arbennig o 100 y cant mewn 32 o bynciau Safon Uwch,  gyda hanner ohonynt yn cyflawni graddau A*- B a chyflawnodd tri chwarter ohonynt raddau A*- C.  Roedd newyddion da hefyd i’r myfyrwyr a ddilynodd y rhaglen GATE i fyfyrwyr galluog a thalentog, gyda 84% yn ennill graddau A*/A a llwyddodd 100% ohonynt i ennill graddau A*- B. 99.2% yw ein cyfradd lwyddo gyffredinol A*- E ar gyfer cymwysterau Safon Uwch ac enillodd 71 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl, sef D* D* D* sy’n cyfateb i 3 A* Safon Uwch.

At hynny, llwyddodd nifer syfrdanol, sef 427 o ddysgwyr, i gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd llwyddo ragorol o 99.3%. Mae myfyrwyr Safon Uwch a BTEC wedi ymaddasu i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i gyrraedd canlyniadau gwirioneddol ryfeddol unwaith eto.  Mae llawer o ddosbarth 2020 wedi sicrhau lleoedd mewn prifysgolion o fri neu wedi ennill y cymwysterau i ddod o hyd i’w swyddi delfrydol.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Rwy’n falch iawn o’r canlyniadau rydyn ni wedi’u cyflawni, yn enwedig mewn cyfnod sydd wedi bod yn un heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn ffordd hollol newydd. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad y staff a’r myfyrwyr mewn amgylchiadau na welwyd eu tebyg o’r blaen.”

Roedd Gaynor Richards MBE, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, wrth ei bodd wrth glywed y canlyniadau a dywedodd:  “Hoffwn ddweud llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr a gafodd eu canlyniadau heddiw. Rydyn ni’n ymwybodol iawn fod y flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi diweddu mewn ffordd mor wahanol. Fodd bynnag, rydych chi nawr yn ymuno â grŵp disglair o gyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hastudiaethau gyda ni yng Ngrŵp Colegau NPTC.  Rwy’n hynod falch o bawb, myfyrwyr a staff sydd wedi ymgorffori ethos y coleg eleni drwy fyw ac anadlu ein llinell strap ‘Mwy nag addysg yn unig’.”

Ychwanegodd Jeremy Miles AC dros Gastell-nedd: “Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn canlyniadau ar draws Castell-nedd heddiw. Nid oes unrhyw fyfyrwyr erioed wedi gorfod wynebu amgylchiadau o’r fath fel y gwnaethoch chi gyda COVID, llongyfarchiadau a phob lwc am beth bynnag yr ydych yn dewis ei wneud nesaf.”

Cyflawnodd Aaron Williams ganlyniadau rhagorol sef pedwar A * mewn Cemeg, Bioleg, Ffiseg a Mathemateg. Cafodd A hefyd yn ei Gymhwyster Project Estynedig (EPQ).  Mae bellach yn mynd i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Pan ofynnwyd iddo am ei gyfnod yn y Coleg, dywedodd: “Roeddwn i’n caru pob munud!”

Cyflawnodd Rachel Newton-John dri A* mewn Cyfrifiadureg, Ffiseg ac Electroneg ac A mewn Mathemateg.  Cafodd ei derbyn i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Enillodd gefeilliaid Kelsey a Seren Hughes BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon. Cyflawnodd y ddwy ohonynt ragoriaeth driphlyg 3 seren (D * D * D *) yn eu cymhwyster BTEC Lefel 3 sy’n gyfwerth â 3 A* ar Safon Uwch.  Mae’r ddau yn mynd i astudio Chwaraeon yn y brifysgol gyda Kelsey yn cael ei dderbyn i Brifysgol De Cymru a Seren yn mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Cyflawnodd Chantale Davies A *mewn Ffrangeg A *mewn Saesneg ac A* mewn Hanes yn ei harholiadau Safon Uwch ac mae ganddi le i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen.

Mae Jordan Hall yn mynd i Imperial College London, ei ddewis cyntaf, i astudio Cyfrifiadureg ar ôl ennill dau A *mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach a gradd A mewn Cyfrifiadureg.

Enillodd Benjamin McDonald A* mewn Ffiseg, A* mewn Economeg ac A mewn Mathemateg ac mae nawr yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Economeg.

Derbyniwyd Bethany Moule gan Brifysgol Caerdydd, ei dewis cyntaf, i astudio Fferylliaeth ar ôl ennill A* mewn Addysg Gorfforol, A mewn Llenyddiaeth Saesneg, A mewn Bioleg a B mewn Cemeg.

Cyflawnodd Lloyd Williams A* mewn Mathemateg ac A* mewn Bioleg a B mewn Mathemateg Bellach a bydd yn mynd i Gaerwysg i astudio Mathemateg.

Dywedodd Lloyd: “Mi wnes i fwynhau fy amser yn y coleg yn fawr, mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr drwy gydol y pandemig wedi bod yn wych.”

Mae Morgan Williams wedi penderfynu mynd yn syth i gyflogaeth ym maes Codio Cyfrifiaduron ar ôl ennill dau A* mewn Mathemateg a Ffiseg a dau A mewn Mathemateg Bellach a Chyfrifiadureg.

Enillodd Sion Jones ragoriaeth serennog driphlyg (D * D * D) yn ei gymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, yng Ngholeg Y Drenewydd.  Mae Sion yn gobeithio dechrau Gradd Prentisiaeth gyda’r heddlu ym mis Ionawr neu ymuno â Phrifysgol Caerdydd i astudio Troseddeg fis Medi nesaf.

Derbyniodd Alanna Marshall D * D * D yn ei chymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Busnes ac A* yn ei Bagloriaeth Cymru.  Cafodd ei derbyn i Brifysgol Abertawe i astudio Troseddeg a Chymdeithaseg.

Mae Shay Beer wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i astudio Peirianneg Chwaraeon Modur ar ôl cyflawni rhagoriaeth driphlyg serennog, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg.

Mae Ffion Williams yn mynd i Southampton i astudio’r gyfraith ar ôl llwyddo i ennill rhagoriaeth serennog driphlyg mewn Teithio a Thwristiaeth.

Mae Jessica Tonner yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Gwaith Cymdeithasol ar ôl derbyn rhagoriaeth serennog driphlyg, BTEC Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Enillodd Ryan d Auria ragoriaeth driphlyg D*, D*, D* mewn Cerddoriaeth ac mae’n edrych ymlaen at ddechrau ar ei radd mewn Cerddoriaeth Fasnachol yn Bath Spa.

Teleri Ottaway – D * D * D *, BTEC Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a B yn ei chymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Dywedodd hi: “Derbyniais fy nghanlyniadau heddiw ar gyfer y cwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol fy mod i wedi bod yn ei astudio am y ddwy flynedd ddiwethaf. Fe wnes i ennill rhagoriaeth driphlyg gyda 3 seren ac rwy’n falch iawn o hynny, a hoffwn ddiolch i staff Coleg Y Drenewydd am eu holl help a’u harweiniad. Mae’r cwrs wedi dysgu cymaint i mi ac rwy’n teimlo ei fod wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfle i mi sylweddoli ble hoffwn i fynd yn y dyfodol.

Byddwn i’n argymell y cwrs hwn yn fawr iawn i unrhyw un sy’n ystyried ei gymryd gan ei fod yn creu cymaint o gyfleoedd ac yn bersonol rwyf wedi dysgu cymaint ohono. Fy mhennod nesaf yw dechrau gradd mewn Addysgu mewn Ysgolion Cynradd ym Mhrifysgol Caer.”

Cafodd Elis Tudor D * D * D * yn y BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a nawr yn mynd i astudio Addysg Gynradd yn arwain at SAC ym Mhrifysgol Aberystwyth. Derbyniodd Elis Tudor ysgoloriaeth o Aber o ganlyniad i’w graddau.

Cyflawnodd Prys Eckley D * D * D * mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.  Mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd ym mis Medi i astudio Addysg Chwaraeon ac Iechyd.