Myfyrwyr Powys yn Ennill Marciau Uchaf

Ar ôl blwyddyn na allai unrhyw un fod wedi’i rhagweld yn wyneb pandemig byd-eang, cynhaliodd y Coleg ei gyfradd llwyddiant gyffredinol o 99 y cant a chyflawni’r nifer uchaf o ganlyniadau A* yn hanes y Coleg. At hynny, enillodd 71 o fyfyrwyr raddau rhagoriaeth driphlyg yn y cymwysterau Diploma Cenedlaethol Estynedig, gyda 32 o fyfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl sef rhagoriaeth serennog driphlyg (D* D* D*) sy’n cyfateb i dair A* ar Safon Uwch.

Hefyd, cyflawnodd nifer eithriadol o uchel o ddysgwyr, sef 427, y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gyda chyfradd llwyddiant arbennig o 99.3%. Fe wnaeth myfyrwyr Safon Uwch a BTEC addasu i ddysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar eu hastudiaethau i ennill canlyniadau sy’n wirioneddol ryfeddol.  Mae llawer o ddosbarth 2020 wedi sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau neu wedi cael y cymwysterau i ennill eu swyddi delfrydol.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Rwy’n hynod falch o’r canlyniadau rydym wedi’u cyflawni, yn enwedig yn yr hyn a fu’n gyfnod heriol mewn mwy nag un ffordd. Mae staff wedi addasu eu harferion addysgu er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffordd gwbl newydd. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad staff a myfyrwyr mewn amgylchiadau digynsail.”

Roedd Gaynor Richards MBE, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn falch iawn o glywed am y canlyniadau a dywedodd:  Hoffwn longyfarch ein holl fyfyrwyr a gafodd ganlyniadau heddiw. Yr ydym yn ymwybodol iawn o ba mor wahanol oedd diwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Fodd bynnag, yr ydych yn awr yn ymuno â grŵp pwysig o gyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hastudiaethau gyda ni yng Ngrŵp Colegau NPTC.  Rwy’n hynod falch o bawb, myfyrwyr a staff sydd eleni wedi dangos ethos y Coleg hwn drwy wireddu ein harwyddair yn llwyr – “Mwy nag addysg yn unig” – “More than just an education.”

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Rwyf am anfon fy nymuniadau gorau i’r holl fyfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC am eu holl waith caled yn arwain at ddiwrnod y canlyniadau. Gobeithio y cawsoch y canlyniadau yr oeddech yn eu dymuno ac y gallwch edrych ymlaen at gam nesaf eich addysg neu eich gyrfa!”

Rhai o ganlyniadau’r myfyrwyr ym Mhowys –

Cyflawnodd Layla Jones Ragoriaeth arbennig yn y Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio. Yn ystod ei hamser ar y cwrs roedd Layla yn fyfyriwr ymroddedig a llawn ffocws a aeth o nerth i nerth. Roedd ganddi angerdd dros theatr gerddorol ac roedd yn berfformiwr bygythiad triphlyg cryf. Roedd Layla ar fin ymgymryd â’r brif rôl yn ein cynhyrchiad theatr gerddorol fawr cyn y cyfnod o gyfyngiadau symud, ac er bod gorfod canslo’r cynhyrchiad yn siom fawr, parhaodd Layla i weithio’n galed a dangos yr un lefel o ymrwymiad tuag at y dysgu ar-lein ag a wnaeth yn y coleg. Roedd gwaith Layla bob amser o safon uchel, a rhoddodd yr un sylw i’w gwaith ysgrifenedig ag y gwnaeth i’w gwaith ymarferol. Y tu allan i’r Coleg roedd Layla hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau lleol. Bu’n gweithio gyda’r grŵp theatr plant yn Yr Hafren, Rising Stars, ac yn creu coreograffi ar eu cyfer. Mae’n helpu gyda grwpiau eraill fel hyfforddwr llais ac mae hefyd yn perfformio’n lleol. Mae Layla yn gobeithio ennill lle mewn ysgol ddrama er mwyn dilyn gyrfa mewn theatr gerddorol.

Astudiodd Courtney Ashworth y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon   a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) sy’n cyfateb i 3 A* ar Safon Uwch. Mae Courtney wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau ac mae’n mynd i astudio Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Astudiodd Owen Brunt hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd Owen, ‘Gweithiais yn galed iawn am y graddau a enillais ac rwy’n falch o gael lle yn Met Caerdydd i wneud Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon’.

Astudiodd Elis Tudor y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon  a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru. Mae Elis wedi derbyn ysgoloriaeth o ganlyniad i’w graddau ac mae’n mynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud Addysg Gynradd gan arwain at SAC.

Astudiodd Prys Eckley Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*). Mae Prys yn mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Addysg Chwaraeon ac Iechyd.

Astudiodd Conor Drain hefyd y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog ac roedd yn falch o ennill  Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*).

Cwblhaodd Ethan Smith y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes gyda CBC. Cyflawnodd Ethan Ragoriaeth Ddwbl, Teilyngdod a gradd A ym Magloriaeth Cymru. Mae Ethan wedi ffynnu wrth astudio gartref ac wedi penderfynu cwblhau BA Anrhydedd mewn Rheoli Busnes (Cyfrifeg) yn y Brifysgol Agored, tra’n cwblhau AAT Lefel 2&3. Drwy gydol y pandemig mae Ethan wedi bod yn gweithio tuag at gael tystysgrif gan y CFA (Awdurdod Ariannol Siartredig) drwy gwrs ar-lein y mae’n dweud sydd wedi datblygu ei ddealltwriaeth o’r sector ariannol ymhellach, yn ogystal â pharhau i weithio’n rhan-amser mewn cwmni cyfrifeg i gael profiad.

Astudiodd Teleri Ottaway y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru.

Dywedodd Teleri, ‘Rwy’n falch iawn o’m canlyniadau, a hoffwn ddiolch i staff Coleg y Drenewydd am eu holl help a’u harweiniad. Mae’r cwrs wedi dysgu cymaint i mi, ac rwy’n teimlo ei fod wedi agor drysau i mi ac wedi caniatáu i mi sylweddoli i ble rwyf am fynd yn y dyfodol. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un sy’n ystyried ei ddilyn gan ei fod yn creu cynifer o gyfleoedd ac rwyf i’n bersonol wedi dysgu cymaint ohono. Fy mhennod nesaf yw dechrau gradd mewn Addysgu Ysgol Gynradd ym Mhrifysgol Caer.

Astudiodd Ellie Bray hefyd y Diploma Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyflawnodd Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) a B ym Magloriaeth Cymru.

Dywedodd Ellie, ‘Rwy’n falch iawn o’m graddau! Dwi nawr yn mynd i brifysgol Swydd Stafford, ond ar gampws yr Amwythig, i astudio Nyrsio Plant! Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb y tiwtoriaid anhygoel!!

Derbyniodd Sion Jones Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) yn y BTEC Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n gobeithio dechrau Gradd Prentisiaeth yr Heddlu ym mis Ionawr neu’n ystyried ymuno â Phrifysgol Caerdydd i astudio Troseddeg fis Medi nesaf.

Derbyniodd Steph Andrews Ragoriaeth Serennog Driphlyg (D*D*D*) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Mae’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio gradd yn y Gyfraith a Throseddeg.

Astudiodd Will Bengall  Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC. Cyflawnodd radd Rhagoriaeth, Rhagoriaeth Teilyngdod  a bydd yn symud ymlaen i Brifysgol Glyndŵr i astudio Plismona Proffesiynol yn gysylltiedig â Heddlu Gogledd Cymru.

Astudiodd Billy Morgan hefyd Wasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 BTEC 3 a chyflawnodd radd Llwyddiant Triphlyg. Ymunodd Billy â Byddin Prydain ym mis Mehefin 2020.