Edrych yn ôl ar Fywyd y Coleg

Roedd gan David Macius, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Bannau Brycheiniog (rhan o Grŵp Colegau NPTC) ddiddordeb mewn TG a thechnoleg erioed, a phenderfynodd mai’r Coleg oedd y lle gorau iddo ddechrau ei fenter newydd.

Wrth ddechrau yn y coleg, roedd David yn rhyfeddu at faint o gyfleoedd oedd ar gael ac mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Y wybodaeth a enillwch yn y cwrs TG oedd yr hyn a’m sbardunodd. Yn amrywio o ddatblygu meddalwedd, peirianneg, cymorth llinell, dadansoddwr data, gweinyddydd, pensaernïaeth a dylunio, arbenigwr rhaglenni, rheolwr prosiect, datblygu gemau, dylunydd graffeg a llawer rhagor.”

Mae David yn bwriadu dechrau ei fusnes ei hun o fewn y diwydiant gemau, lle mae’n gobeithio rhedeg cymuned gemau fyd-eang lle mae pobl yn ymgynnull o bob cwr o’r byd i chwarae. Fel darpar gemwr ei hun mae’n ychwanegu: “Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi am y coleg, yw bod pob tiwtor yn wych, roedd pawb yn gyfeillgar, doedd y llwyth gwaith ddim yn ormod o straen, a bod cefnogaeth bob amser os oedd angen help.”

Pan ddechreuodd David ar y broses Coleg roedd yn poeni am yr amgylchedd newydd ac yn dweud: “Efallai fod y coleg yn ymddangos yn frawychus i’r newydd-ddyfodiaid gan ei fod yn rhywbeth hollol newydd nad ydynt efallai wedi mynd drwyddo o’r blaen, ond ni fyddwch yn teimlo’n wahanol i’r lleill a byddwch yn cael amser anhygoel yn sicr!”