Mae’n werth dysgu gyda’r gorau!

Nid yw prentisiaethau ar gyfer ymadawyr ysgol yn unig, yng Nghymru maent ar gael i unrhyw un dros 16 oed ac, fel oedolyn sy’n dychwelyd i addysg, byddwch am wybod bod yr addysgu y byddwch yn ei dderbyn o’r ansawdd uchaf. Gyda hynny mewn golwg, enwyd Grŵp Colegau NPTC yn y Darparwr Hyfforddiant Gorau yng Nghymru yng Ngwobrau Ymadawyr Ysgol 2020 am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae’r gwobrau yn dathlu’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant gorau i ymadawyr ysgol ar raglenni prentisiaethau ar draws y DU. Dyma’r rhestr fwyaf o gyflogwyr sy’n cynnig y prentisiaethau gorau a’r cyfleoedd gorau i ymadawyr ysgol, ac, yn allweddol, mae’n helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau allweddol am eu gyrfa.

Felly, os ydych chi am newid gyrfa ac nid yw astudio amser llawn yn opsiwn i chi, yna gallai prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC fod yr union beth rydych chi’n edrych amdano!

Mae gan Grŵp Colegau NPTC raglen brentisiaethau lwyddiannus iawn gyda rhai cwmnïau eithriadol, fel y DVLA; Undeb Rygbi Cymru (WRU); Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a’r Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe arobryn.

Mae prentisiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith yn rhoi cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr mewn swydd go iawn a chael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a’r cyfan wrth ennill cyflog!

Gallwch ddod o hyd i yrfa mewn llawer o feysydd gan gynnwys:

Cyfrifeg, Amaethyddiaeth, Mecaneg Amaethyddol, Gweinyddu Busnes, Gofal / Gofal Iechyd Clinigol, Adeiladwaith, Gofal Plant, Gwasanaeth Cwsmer, Lletygarwch, Peirianneg, Cerbydau Modur, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Rheoli Manwerthu a Chwaraeon.

Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i uwchsgilio staff sydd eisiau symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gyda chymwysterau amrywiol mewn meysydd fel Arweinyddiaeth a Rheolaeth, AAT (Cyfrifeg), Arwain Tîm a Gweinyddiaeth Busnes.

Rydym hyd yn oed wedi derbyn cyllid o dan y Rhaglen Prentisiaethau Gradd newydd i Gymru, i ddatblygu rhaglenni i uwchsgilio gweithwyr presennol i lefel gradd mewn meysydd fel; peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data.

Astudiaethau Achos

Llwyddodd y Prentis Cyllid Leanne Heymans i gael gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel eu Prentis Cyllid cyntaf un. Roedd hyn yn cynnwys gweithio yn Nhîm Rheoli Ariannol Datganoledig Pencadlys Baglan am bedwar diwrnod yr wythnos ac yna mynychu’r Coleg i astudio tuag at Gymhwyster Lefel 2 Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar y pumed diwrnod.

Y llynedd, cafodd Leanne ei dyrchafu’n Uwch Swyddog Cyllid yn yr un tîm. Cariwyd llawer o’i thasgau prentisiaeth ymlaen i’w rôl newydd, fodd bynnag, enillodd gyfrifoldebau ychwanegol mwy cymhleth yn fuan, a disgwylid iddi fod bron yn gyfan gwbl hunanddibynnol.

Meddai Leanne: “Roedd fy ngweithle yn gefnogol iawn i’m haddysg a byddai’n mynd ati i chwilio am gyfleoedd i’m helpu i dyfu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, gwnaeth fy nghyfrifoldebau a’m dyletswyddau gynyddu, a chefais lawer o foddhad wrth ddod yn fwy hunangynhaliol. Yn yr un modd, mae fy nghymorth addysgol wedi parhau, ac ar hyn o bryd rwy’n astudio tuag at Gymhwyster Lefel 3 AAT. Fy mhrentisiaeth fu’r prif gatalydd wrth roi addewid o yrfa dda i mi ac rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi bod ar y siwrnai hon.”

Dechreuodd Amber, o Lanelli, ei gyrfa yn y sector gofal iechyd ar y Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cymorth Patholeg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Ysbyty Singleton, Abertawe a Pathways Training ar ôl penderfynu bod mwy i fywyd na gweithio mewn siop DIY leol.

Gall diwrnod nodweddiadol i Amber gynnwys paratoi samplau a gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr biofeddygol i labelu samplau ar y fainc ddyrannu. Y dull ymarferol hwn a brwdfrydedd newydd ar gyfer y sector a wnaeth ei hybu i fynd ati i gydbwyso ymrwymiadau heriol eraill y tu allan i’r gwaith i sicrhau bod modd iddi barhau i wneud yr hyn yr oedd yn ei fwynhau gymaint, rhywbeth a oedd yn anodd iawn ar adegau.

Amber oedd un o’r dysgwyr cyntaf yng Nghymru i gwblhau’r cymhwyster Cymorth Patholeg ac fe’i hystyrir yn wyddonydd gofal iechyd ei hunan erbyn hyn, wedi sicrhau swydd barhaol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a chael dyrchafiad ar ben hynny.  Mae hi’n eiriolwr dros brentisiaethau o fewn y bwrdd iechyd ac mae hefyd yn mentora’r prentisiaid newydd yn yr adran patholeg.

“Mae prentisiaethau yn wych ar gyfer y bobl hynny sy’n gadael yr ysgol ac yn dymuno gweithio.  Rydych chi’n cael hyfforddi ar y safle ac adeiladu’ch set sgiliau wrth gael cymhwyster. Mae fy mhrentisiaeth gyda Hyfforddiant Pathways a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi rhoi gyrfa i mi yr wyf yn ei charu ac wedi agor byd o gyfleoedd newydd. Rwy’n wyddonydd gofal iechyd ar hyn o bryd a byddaf yn mynd ymlaen i gymhwyster Lefel 4 gyda’r posibilrwydd o fod yn Wyddonydd Biofeddygol.”

Dywedodd Ruth Gates, Rheolwr yr Academi Prentisiaid yn SBUHB “Mae Grŵp Colegau NPTC wedi gweithio gydag Academi Prentisiaid SBUHB ers dros 2 flynedd a hanner ac rydym yn falch iawn o’n holl brentisiaid sydd wedi cyflawni eu cymwysterau ac wedi symud i rolau parhaol.  Ar gyfer ein sefydliad, mae cyflogi prentisiaid i’w hyfforddi i gyflawni rolau yn ffordd wych i ni i ‘dyfu ein staff ein hunain’ gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r gallu i ddatblygu eu gyrfa gyda ni.”

Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) ymhlith y bobl ifanc â’r sgiliau gorau yn y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y llynedd (2019).

Curtis, sydd o Resolfen, yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i’r brig yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham.

Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn bod y gorau yn y DU mewn llwybr galwedigaethol.

Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol.

Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd: “Mae hyfforddiant Pathways yn hynod o falch o gyflawniad Curtis.  Yn ystod ei brentisiaeth gyda ni ac Afon Engineering, mae Curtis wedi rhagori yn yr elfennau academaidd ac ymarferol sydd wedi cefnogi ei ymgyrch. Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio a WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan.  Mae hyn yn wych i’r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal.”

Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, mae ganddo ddyheadau i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio strwythurol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad.

Mae’r Prentis Ailorffennu Ceir Joshua Jones wedi ennill lle yn Rhaglen Dalent WorldSkills UK cyn Rownd Derfynol WorldSkills 2021 yn Shangai.

Ar hyn o bryd mae Josh yn ymgymryd â Phrentisiaeth gyda Pathways Training (darparwr dysgu seiliedig ar waith y Coleg) ac mae’n treulio pedwar diwrnod yr wythnos ar leoliad yn y siop corff cerbydau yn Abertawe ‘Scuffed Up’.

Mae taith Josh i Raglen Dalent WorldSkills UK wedi ei weld yn cystadlu ledled Cymru a’r DU. Cipiodd arian yn rownd derfynol cystadleuaeth World Skills Cymru ym mis Ionawr 2019 ac yna aeth ymlaen i gystadlu yn rhagrasys World Skills UK (un o ddim ond deunaw o’r prentisiaid gorau yn y DU). Ei berfformiad yma a enillodd le iddo yn Rownd Derfynol World Skills Live UK ym mis Tachwedd 2019 ac a arweiniodd yn y pen draw at gael ei ddewis ar gyfer Rhaglen Dalent WorldSkills UK.

Mae Josh yn gobeithio un diwrnod y gall redeg ei fusnes cyrff cerbydau ei hun, ond tan hynny, mae’n mwynhau ennill wrth weithio ar ddysgu.

Meddai “Rydw i wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd lle rydw i nawr, gan wella fy nhechnegau yn gyson a mireinio fy nghrefft, a hynny yn fy ngweithle ac yn ystod fy nyddiau astudio yn y Coleg. Mae gallu gweithio ar yr un pryd ag astudio wedi bod yn amhrisiadwy, gan fy mod i’n dysgu pethau newydd bob dydd yn Scuffed Up; mae yna wahanol fathau o waith yn dod i mewn bob dydd ar bob math o geir, felly mae’n rhaid i chi allu addasu. Mae’r ymdeimlad o foddhad pan fydd cwsmer yn ein gadael ni’n hapus heb ei ail, ac rwy’n mwynhau hynny yn fawr. ”

Roedd gan Josh hyn i’w ddweud wrth ystyried dod yn brentis: “Byddwn yn argymell prentisiaeth gyda hyfforddiant Pathways i unrhyw un. Roeddwn i wrth fy modd o’r diwrnod y cerddais trwy’r drws am y tro cyntaf; rwy’n dysgu ac yn datblygu bob dydd. Mae’n helpu fy mod i’n cael fy nhalu hefyd!”

Dechreuodd y Prentis Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Katie Jones ei thaith yn Ward Llawfeddygaeth V yn Ysbyty Treforys fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. O ganlyniad uniongyrchol i’w phrentisiaeth, mae hi bellach wedi llwyddo i gael rôl amser llawn yn Ward T ENT / Max Fax.

Meddai Katie: “Trwy gwblhau’r brentisiaeth, rwy’ wedi cael swydd fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd band 2 ac wedi ennill cymhwyster cydnabyddedig. Rwyf wedi mwynhau cwrdd â llawer o bobl yn fawr a dysgu gan staff profiadol ar y ward.

Mae fy rôl swydd newydd yn debyg oherwydd bod y gofal a ddisgwylir gennyf yr un peth, fodd bynnag, mae’r ward yn gweithio ar gyflymder gwahanol ac yn arbenigedd gwahanol felly rwyf wedi dysgu sgiliau newydd ac rwyf bob amser yn dysgu mwy am wahanol achosion meddygol. ”

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am ein Prentisiaethau, gallwch gysylltu â Hyfforddiant Pathways ar 01639 648064 (Castell-nedd / Port Talbot) neu 0845 4086 253 (Powys) neu drwy e-bost yn: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk