Newid eich Stori gyda Grŵp Colegau NPTC

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i newid eich stori.  Gall gymryd y cam cyntaf hwnnw a dychwelyd i addysg ehangu eich gorwelion, adeiladu rhwydweithiau ac agor cynifer o gyfleoedd; dyma eich cyfle i ddechrau o’r newydd.

Os ydych am uwchsgilio, gwella’ch rhagolygon gyrfa, ennill cymwysterau newydd, neu eisiau dysgu rhywbeth newydd, mae gennym lu o gyrsiau amser llawn, rhan-amser, Safon Uwch a chyrsiau galwedigaethol ymarferol, yn ogystal â phrentisiaethau a graddau hyd yn oed ar draws sawl maes pwnc – mae gennym rywbeth at eich dant chi yn bendant.

O gyfrifeg i gyfrifiadura, addurno cacennau, gosod brics, trin gwallt a harddwch a llawer mwy hefyd, mae gennym ystod o gyrsiau yn ystod y dydd, gyda’r hwyr neu dros y penwythnos a all gyd-fynd â’ch gwaith a’ch ffordd o fyw, gyda dosbarthiadau bach a chefnogaeth un-i-un.

Ymunodd Peter O’Neil â’r cwrs byr 12 wythnos Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg Castell-nedd ar ôl ysgrifennu fel hobi ers oesoedd.  Esboniodd yr hyn yr oedd yn ei fwynhau ynglŷn â’r dosbarth:

“Fel rhywun sy’n 54 oed sydd wedi bod yn ysgrifennu fel hobi am flynyddoedd maith, dwi wedi canfod bod pethau newydd i’w dysgu drwy’r amser.  Mae’r dosbarthiadau yn anffurfiol ac mae cymysgedd da o oedrannau.  Maen nhw’n defnyddio gweithiau amrywiaeth o awduron a’r cyfryngau i ddarparu detholiad cytbwys o arddulliau a thechnegau diddorol.

Mae’r cwrs yn cwmpasu pob agwedd ar ysgrifennu creadigol, gweithiau ffuglen a ffeithiol ill ddau gan roi cipolwg gwerthfawr ar y dulliau a’r strwythurau a ddefnyddir i greu unrhyw fath o ysgrifennu, o ffuglen fflach a storïau byrion i hunan fywgraffiadau ac adolygiadau.  Mae pob modiwl wythnosol yn llawn gwybodaeth ac mae myfyrwyr yn cael eu hannog i rannu eu gwaith ac ymuno â gweithdai er mwyn trafod, beirniadu a gwella eu gwaith.’’

Cyrsiau ar lefel Prifysgol

Yng Ngrŵp Colegau NPTC rydym yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau Addysg Uwch o fri fel Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol De Cymru a Pearson.

Dyluniwyd pob un o’n cyrsiau Addysg Uwch gyda chyflogaeth a gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi’r wybodaeth a’r profiad gorau i’n graddedigion i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Cyfrifon Dysgu Personol

Eleni, lansiwyd y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) gan Lywodraeth Cymru i roi mynediad i gyrsiau rhan-amser hyblyg. Mae’n anelu at gynnig y sgiliau a’r cymwysterau y byddai eu hangen arnoch er mwyn newid gyrfaoedd neu uwchsgilio o fewn eich maes cyflogaeth presennol, cael mynediad i ystod ehangach o gyfleoedd swyddi a/neu ennill cyflogaeth ar lefel uwch.

Bydd modd i chi ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu heisiau gan gyflogwyr lleol a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu’i newid yn gyfan gwbl, er mwyn manteisio ar ddiffyg sgiliau a gwella eich cyfleoedd o ran dechrau newid cyfeiriad yn eich gyrfa neu wella eich gyrfa bresennol.

Am ragor o fanylion am gyfrifon dysgu personol, cysylltwch â Thîm Datblygu Busnes y coleg ar 0800 013 2544.

Am ragor o fanylion am ein cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a chyrsiau proffesiynol, chwiliwch ‘grŵp nptc’ heddiw.