Adeiladu sgiliau i hwyluso cynaliadwyedd adeiladwaith yng Nghymru yn y dyfodol

Mae Grŵp Colegau NPTC bob amser wedi edrych ar yr arloesi neu’r sgiliau newydd sydd eu hangen yn y sector i ddiwallu anghenion cynaliadwyedd adeiladau a’r gymuned. Mae bob amser wedi galw ar ddarparwyr profiadol, neu arbenigwyr yn eu meysydd, i gefnogi’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth bresennol a gynigir ganddo i’r sector.

Trwy ymgysylltu â fforwm ar gyfer ynni adnewyddadwy’r Adran Busnes, Ynni a Diwydiant (BEIS) sydd wedi bod yn ymchwilio i anghenion sgiliau’r wlad, a sut orau i sicrhau bod safonau ansawdd mewn gosod, dylunio a chynnal a chadw yn cael eu bodloni, mae’r Coleg wedi llwyddo i ddefnyddio partneriaethau cyffrous i ddatblygu hyfforddiant i fod ar flaen y gad o ran darparu’r sgiliau hyn yng Nghymru a thu hwnt.

Mae gan y Coleg berthnasoedd cryf eisoes â Ffederasiwn Gwaith Coed Prydain (BWF), y Supply Chain Sustainability School ei fod yn ei chadeirio yng Nghymru, a Fitout Interior Skills Federation (FIS) ac mae pob un ohonynt yn meddu ar yr wybodaeth a’r deallusrwydd i gefnogi’r patrwm o weithredu.  Yn ddiweddar daeth yn un o aelodau consortiwm y prosiect Ôptimised Retrofit, sydd wedi cael cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag edrych ar anghenion sgiliau’r Prosiect Bargen Ddinesig – Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

Heddiw, mae’n falch o gyhoeddi bod dau sefydliad arall bellach wedi ymuno â’r ganolfan rhagoriaeth sgiliau, i wella ac ehangu ei gynnig hyfforddi. Y sefydliadau hyn yw Cymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu ac Ynni Elmhurst (BESA), sy’n darparu ystod eang o gefnogaeth a hyfforddiant ym meysydd datgarboneiddio, ôl-ffitio, ynni adnewyddadwy ac adeiladu gwyrdd.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Fel Coleg sydd bob amser wedi bod yn falch o’r ffaith ein bod yn ystyried yr anghenion a’r gefnogaeth sy’n ofynnol gan y sector yn y dyfodol, bydd y ganolfan ragoriaeth hon yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cynaliadwyedd ac adeiladu gwyrdd yng Nghymru. Rwy’n gyffrous i gael grŵp mor gryf a chydnabyddedig o bartneriaid i’n darparu a’n cefnogi i gyflawni’r gweithlu o ansawdd sydd ei angen yng Nghymru. Rydyn yn ymwybodol bod yr elfen hon o hyfforddiant adeiladu yn un o hyrwyddwyr economi Cymru’r dyfodol, ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r Offsite Academy, gyda So-Modular, a’n consortiwm Sgiliau Atal Tân. Yn ystod yr amseroedd heriol hyn, rydyn ni’n gweld y partneriaethau hyn, mewn sefyllfa dda i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn bwysicaf oll y cymunedau a’r bobl, rydyn ni’n eu cefnogi fel Coleg. ”

Dywedodd Amparal Sihra, Pennaeth Masnachol Elmhurst Energy:

Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Grŵp Colegau NT i ddarparu hyfforddiant ar gyfer ei fyfyrwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y maes adeiladu, gan gynnwys nifer o gwmnïau. Mae gan ein cyrsiau cymhwyster a chyrsiau DPP enw o fri ar draws y diwydiant, a dyna pam mae cannoedd o bobl yn dewis hyfforddi gyda ni bob blwyddyn.

Fel y cynllun annibynnol mwyaf ar gyfer aseswyr ynni yn y DU, mae ansawdd yn holl bwysig i ni ym mhopeth a wnawn, gan gynnwys ein llu o gyrsiau hyfforddi. Mae ein cyrsiau cymhwyster mwyaf poblogaidd yn cynnwys: Hyfforddiant Asesydd Asesu Ynni Domestig (DEA), Asesydd Ynni Annomestig (NDEA) ac Asesydd Retrofit. Bydd yr holl gyrsiau’n cael eu cyflwyno ar-lein neu wyneb yn wyneb ac yn cael eu harwain gan hyfforddwyr profiadol a gwybodus, sy’n meddu ar brofiad go iawn yn y diwydiant. ”

Ychwanegodd Prif Weithredwr BESA, David Frise:

“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Grŵp Colegau NPTC ac rydyn ni’n cefnogi ei amcanion i ehangu cwmpas sgiliau adeiladu yng Nghymru,”.

“Mae’r rhagolygon ar gyfer twf busnes ar draws y sector peirianneg adeiladau yn addawol dros ben wrth i’r DU geisio cael eu hailadeiladu yn sgil y pandemig Covid-19. Fodd bynnag, mae gwireddu ein potensial yn llawn yn dibynnu arnom i ddenu gweithlu mwy amrywiol a’u harfogi ag ystod eang o sgiliau newydd sy’n briodol ar gyfer marchnad sy’n newid yn gyflym”.

“Mae hyn yn arbennig o amlwg yn y sector carbon isel wrth i ni geisio gwireddu uchelgeisiau sero net y llywodraeth ar gyfer 2050 a datgloi’r potensial enfawr mewn technolegau adnewyddadwy. Mae datgarboneiddio gwres yn dasg benodol iawn i’n diwydiant ac mae’r defnydd mwy o systemau digidol i foderneiddio’r ffordd y mae prosiectau’n cael eu cynllunio a’u cyflawni yn flaenoriaeth frys arall. ”

“Mae BESA, felly, yn hynod ddiolchgar am y cyfle i gyd-weithio’n agos â Grŵp Colegau NPTC ar y rhain a’r llu o heriau sgiliau eraill sydd o’n blaen.”