Catrin yn derbyn cynnig Norland Nanny

Catrin de Kleijn-Jones, myfyriwr gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant Lefel 3 cyfredol yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn derbyn cynnig gan Goleg enwog Norland Nanny.

Darganfu Catrin, ugain oed, hoffter am ofal plant wrth astudio Datblygiad Plant ar gyfer TGAU, a phenderfynodd astudio gofal plant ymhellach trwy wneud cais i astudio Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Meddai Catrin: “Dw i’n angerddol am weithio gyda phlant a fy nod yn y pen draw yw dod yn nani. Rwy’n teimlo bod gen i’r sgiliau i gyflawni hyn ac yn ddiweddar cefais fy nerbyn i goleg nanis Norland. Bydd hyn yn fy ngalluogi i wella fy ngwybodaeth ymhellach.”

Mae Norland yn arbenigo mewn addysg y blynyddoedd cynnar ac mae ganddo enw da o’r radd flaenaf, yn cwmpas dros 127 o flynyddoedd. Enillodd Norland y Wobr Addysg Uwch Annibynnol yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCA) yn 2019.

Mae Catrin yn edrych ymlaen yn fawr at elfen ymarferol y cwrs yng ngholeg Norland, yn ogystal â’r cyfle i brofi chwe lleoliad gwahanol yn ystod y cwrs. “Trwy gydol y cwrs byddaf yn cael cyfle i ddatblygu fy sgiliau coginio a thecstilau trwy wersi Bwyd a Maeth a dosbarthiadau Gwnïo,”
eglura Catrin. Mae hi’n ychwanegu: “Trwy’r cwrs yng Ngholeg Bannau Brycheiniog rwyf wedi gallu caffael llawer iawn o wybodaeth am ddatblygiad plant, y cwricwlwm, iechyd a diogelwch a diogelu, yn ogystal ag ennill profiad ymarferol trwy fy lleoliad mewn meithrinfa leol.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau gofal plant yn ogystal â chyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cysylltwch â Choleg Bannau Brycheiniog ar 01686 614400.