Astudiaethau Sylfaen yn datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol

Mae myfyrwyr ar ein cwrs Astudiaethau Sylfaen amser llawn yn parhau i symud ymlaen gyda rhaglen amrywiol o gyfleoedd dysgu i’w paratoi ar gyfer byw’n annibynnol.

Gan edrych yn agosach ar yr hyn y mae’r myfyrwyr wedi bod yn rhan ohono yn fwy diweddar, mae’n amlwg eu bod wedi addasu’n dda i gymysgedd o astudiaethau ystafell ddosbarth ac ar-lein sy’n cynnwys llawer o weithgareddau ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddiddordebau a sgiliau unigol.

 

Prosiect Game Change

Mae nifer o fyfyrwyr o’r cwrs astudiaethau Sylfaen wedi bod yn rhan o brosiect lleol o’r enw ‘The Game Change Project’.  Aeth tri myfyriwr, Keiron Spilsbury-Evans,

Conor Lewis ac Emma Bennett i’r Prosiect yn wythnosol am chwe wythnos. Nod y Prosiect yw pontio’r bwlch rhwng addysg brif ffrwd a gweithle bywyd go iawn i roi golwg newydd i bobl ifanc ar eu rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Mae’r Prosiect yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ennyn diddordeb pobl ifanc a helpu i fagu hyder.  Fe wnaeth myfyrwyr o’r Coleg roi cynnig ar yrru cloddiwr, gosod briciau, sgiliau cyfathrebu a mecaneg sylfaenol, ac fe wnaethant hefyd gymryd rhan mewn prosiect adfer hen aradr a dynnwyd gan geffyl.

Rhannodd y myfyrwyr eu profiad mewn cyflwyniad gydag aelodau eraill y dosbarth gan siarad am sut roeddent wedi mwynhau’r profiad, dysgu sgiliau newydd, magu hyder a chael llawer o hwyl.

Mae’r Coleg yn edrych ymlaen at weithio gyda ‘The Game Change Project’ ar ragor o gyfleoedd i fyfyrwyr yn y dyfodol.

 

Murluniau Celf Awyr Agored

 Mae’r grŵp Astudiaethau Sylfaen yn elwa o ystod eang o weithgareddau sy’n ceisio cymysgu dysgu a hwyl lle bynnag y bo modd. Un prosiect o’r fath a ganiataodd i’r grŵp dreulio amser gyda’i gilydd yn yr awyr agored oedd prosiect murlun celf.

Ceisiodd y prosiect archwilio nifer o sgiliau trwy wneud gwaith celf gan ddefnyddio sialc. Dyrannwyd ardal fawr i’r grŵp yng nghefn y Coleg er mwyn caniatáu iddynt arbrofi gyda lluniadau sialc ac yna gan fanteisio ar ddiwrnod sych aeth grŵp bach o fyfyrwyr i’r awyr agored a gwneud gwaith creadigol.

Dywedodd y Darlithydd Fleur Grigg: ‘Mae lluniadau sialc yn ffordd dda i fyfyrwyr allu mynegi eu dychymyg. Cawsom bob math o arbrofion gyda lliw a gwead ond hefyd gyda gwahanol batrymau a delweddau. Fe greodd rhai aelodau o’r grŵp gemau a helpodd hyn i ysgogi cyfathrebu a rhywfaint o ymarfer corff hefyd.’

 

Cystadlaethau Pobi

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, profwyd sgiliau coginio staff gyda chystadleuaeth goginio wedi’i gosod gan y myfyrwyr.

Y tro hwn y myfyrwyr a gafodd gyfle i chwarae rôl y beirniaid.  Fe wnaethant osod heriau prydau bwyd i staff baratoi a choginio ac yna buon nhw’n aros i weld gan ba ddarlithwyr oedd dawn â danteithion a phwy allai greu bwydydd sawrus syfrdanol.  Cafodd y myfyrwyr hwyl ac ar hyd y ffordd cawsant ychydig o ysbrydoliaeth ac awgrymiadau o ran coginio.

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau Astudiaethau Sylfaen, cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth