Medal efydd i Megan Eayrs

Un o’n myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen a ddathlodd lwyddiant eleni oedd Megan Eayrs.  Cymerodd Megan ran yng nghystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol Cymru yn gynharach yn y flwyddyn a dyfarnwyd medal Efydd iddi yn yr her gosod bwrdd.

Mae myfyrwyr ar ein cwrs Astudiaethau Sylfaen llawn amser yn datblygu sgiliau allweddol trwy ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth astudio. Fel hyn gall myfyrwyr fagu hyder trwy ddatblygu sgiliau o amgylch eu diddordebau ac ar yr un pryd ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae Megan Eayrs yn un myfyriwr o’r fath a ragorodd yn ei maes diddordeb, sef lletygarwch.

Canmolodd y darlithydd Fleur Grigg ddewrder a phenderfyniad Megan wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth.  Esboniodd Fleur fod y cwrs Sylfaen yn annog myfyrwyr i ddatblygu eu hunanhyder trwy eu diddordebau.

Roedd y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol Cymru a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o Gymru. Roedd Megan yn bwyllog a chyflwynodd fwrdd buddugol gan ennill y safle Efydd.  Yn anffodus cafodd y digwyddiad dathlu ei ganslo oherwydd Covid 19. Serch hynny, roedd Megan yn falch o dderbyn ei medal a gyrhaeddodd drwy’r post yn ystod y cyfnod clo. Fe’i cofrestrwyd hefyd ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru sydd wedi’i gohirio am y tro.

Dywedodd y darlithydd Amanda Cruse: ‘Mae Megan yn rhoi llawer o ymdrech i mewn i’w holl waith ac roeddem yn falch o dderbyn llun ohoni yn gwenu’n braf gyda’i medal. Roedd hi’n ei haeddu. Pob lwc yn y dyfodol Megan.’

Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau Astudiaethau Sylfaen, cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth