Mae gan Lauren Drew ‘Y Llais’

Codwyd y to gan gyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC a seren y West End, Lauren Drew, gyda’i fersiwn syfrdanol o gân Jessie J ‘Mama Knows Best’ yn ei chlyweliad dall ar The Voice yr wythnos diwethaf.

Yn ystod y perfformiad anhygoel, cafodd y pedwar beirniad i daro eu botymau a throi o gwmpas, sef y tro cyntaf i’r pedwar beirniad droi y tymor hwn. Gwnaeth Lauren y fath argraff ar Tom Jones (Beirniad), a anwyd ym Mhontypridd fe dagiodd Jessie J mewn Trydar er mwyn iddi allu gwylio Lauren yn canu ei chân.

Nid yw Lauren yn ddieithr i’r llwyfan ac mae wedi cyflawni nifer o berfformiadau clodwiw. Mae hi wedi perfformio mewn llawer o sioeau theatr fel Six, Evita, Sweet Charity, Heathers The Musical, Kinky Boots, a Ghost.

Fel myfyriwr graddedig o Academi Celfyddydau Theatr Mountview (2016), mae Lauren yn gyson yn gwthio ei hun ac yn datblygu ei gyrfa broffesiynol. Yn hanu o Bort Talbot, cychwynnodd Lauren ar ei thaith i’r llwyfan trwy ddilyn TGAU Drama a Cherddoriaeth. Dewisodd fynd i Grŵp Colegau NPTC i astudio ar gyfer Diploma BTEC yn y Celfyddydau Perfformio a’i gosododd ar y llwybr cywir i ennill lle yn Academi Mountview.

Roedd gan Bennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, Victoria Burroughs hyn i’w ddweud am Lauren: “Pan astudiodd Lauren y Celfyddydau Perfformio BTEC Lefel 3 yng Ngholeg Castell-nedd, gwelodd y tîm darlithio faint o botensial, talent amrwd ac ymrwymiad oedd gan Lauren ynddi.  Roedd yn amlwg yn ôl bryd hynny fod gan Lauren ddyfodol gwych o’i blaen yn y diwydiant celfyddydau perfformio.  Mae wedi bod yn bleser gweld gyrfa berfformio broffesiynol Lauren yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn falch iawn o lwyddiant diweddar Lauren ar The Voice ac rydym yn ei chefnogi 100%.  Pob lwc Lauren.”

Rydym yn dymuno’r gorau i Lauren ennill The Voice!

Cadwch i fyny â thaith Lauren trwy ei Twitter ac Instagram.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Celfyddydau Perfformio, edrychwch ar ein cyrsiau sydd ar gael. Cliciwch yma i gael mwy