Ffotograffydd Ffyddiog – Anita Ashworth

Cafodd Anita Ashworth, myfyriwr yng Ngholeg y Drenewydd (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) sy’n astudio Safon Uwch mewn Ffotograffiaeth, flwyddyn newydd dda dros ben trwy ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth.

Enillodd Anita o Feifod, Gogledd Powys, gystadleuaeth ar-lein Ffotograffiaeth y Gaeaf yng nghystadleuaeth Spanish Equitation UK gyda’i llun syfrdanol o geffyl du yn cuddio rhag cwymp eira. Daeth Anita i’r Coleg gyntaf i wneud cwrs ffotograffiaeth ddigidol wyth wythnos, ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i’r cwrs Safon Uwch rhan-amser.

Dechreuodd ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl damwain oedd yn golygu na allai barhau fel bridiwr ceffylau Sbaenaidd, rhywbeth yr oedd wedi’i wneud gydag angerdd am 20 mlynedd. Yn lle hynny, cyfunodd ei chariad at geffylau a ffotograffiaeth.

Dywedodd Anita: “Mynychais y cwrs ffotograffiaeth ddigidol wyth wythnos am ddim i ddechreuwyr yn y Coleg gyda’r darlithydd Ian Savage, a mwynheais fynd yn ôl i ddysgu yn fawr – cymaint felly, cofrestrais ar y cwrs ffotograffiaeth Safon Uwch rhan-amser fel myfyriwr aeddfed.”

Mae’r cwrs Ffotograffiaeth Safon UG/U ar gael i ddysgwyr rhan-amser a’r rhai sy’n rhan o’r rhaglen Cyswllt Ysgol sydd ar gael ledled Gogledd  Powys.

Mynychodd Anita ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos i ddechrau ac roedd ganddi fynediad i’r cyfleusterau gwych yn y Coleg, sy’n cynnwys ystafell gyfrifiaduron Mac lawn, ystafell dywyll a stiwdio oleuadau, ynghyd â darlithwyr profiadol yn darparu gwybodaeth am wahanol dechnegau defnyddiol a chyffrous. Er yn fwy diweddar mae’r grŵp wedi gorfod symud i ddysgu ar-lein oherwydd y pandemig.

Fodd bynnag, gyda’r cwrs yn cynnig ysbrydoliaeth, prynodd Anita gamera a lensys da a thanysgrifio i Adobe photoshop ac yn fuan roedd yn mwynhau tynnu lluniau yn yr awyr agored. Er ei bod yn cytuno mai ffotograffiaeth ceffylau yw ei chariad cyntaf, daw natur a thirweddau yn ail agos. Llwyddodd Anita i gael ei lluniau o geffylau ar glawr cylchgrawn ‘Arena North West’ a’u cynnwys mewn erthygl tudalen ddwbl.  Mae hi bellach wedi dechrau postio rhai o’i lluniau ar dudalen Facebook clwb camera’r papur lleol ‘The County Times’ ac roedd wrth ei bodd pan gafodd ei llun ‘Landscape looking west to Cader Idris from Meifod ‘ ei ddewis i fod yn y papur fel y llun Nadolig.

Dywedodd y darlithydd Ian Savage: “Mae Anita wedi dangos ymrwymiad enfawr i’r pwnc ac mae hi wedi gallu datblygu ei sgiliau gyda chamera a chan ddefnyddio meddalwedd golygu Photoshop yn effeithiol iawn. Mae hyn wedi arwain ati’n ennill gradd ‘A’ ym mlwyddyn gyntaf y cwrs. Mae Anita hefyd wedi gorfod goresgyn heriau personol i sicrhau presenoldeb rheolaidd yn y Coleg ac i gael mynediad at amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys y ceffylau a’r tirweddau y mae hi’n eu caru. Mae Anita wedi bod yn gaffaeliad mawr i’w grŵp cymheiriaid a’r cyrsiau Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Drenewydd.”

Dywedodd Anita: “Mae gen i flwyddyn arall i orffen fy ffotograffiaeth Safon Uwch ac rydw i’n ystyried gwneud cwrs sylfaen ar ôl hyn. Rwy’n mwynhau fy mhrofiad coleg yn fawr, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Ian Savage am ei amynedd a’i addysgu gwych.”

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein Cyrsiau Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio