#NAW2021 – Prentisiaethau: Cymhwyso – Cael Eich Talu – Cael Gyrfa

Os nad yw astudio’n llawn amser yn mynd â’ch pryd, yna gallai prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC fod yr union beth yr ydych yn chwilio amdano.

Mae gan Grŵp Colegau NPTC raglen brentisiaethau lwyddiannus iawn gyda rhai cwmnïau eithriadol, fel y DVLA; Undeb Rygbi Cymru (WRU); Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe  a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Nid y partneriaethau yn unig sy’n llwyddo ond mae llawer o’n prentisiaid yn cystadlu yng Nghystadlaethau Sgiliau’r Byd ar draws yr holl sectorau, yn fwyaf diweddar Curtis Rees, prentis weldio o Resolfen a oedd y myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur uchel ei barch wrth iddo gael ei goroni fel y weldiwr ifanc gorau yn y DU yn y rowndiau terfynol a gynhelir fel arfer yn y NEC yn Birmingham.

Roedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn frig chwe blynedd o waith caled a chystadlu i Curtis. Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn bod y gorau yn y DU mewn llwybr galwedigaethol.

Mae prentisiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith yn rhoi cyfle i chi ennill profiad gwerthfawr mewn swydd go iawn a chael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a’r cyfan wrth ennill cyflog!

 

Gallwch ddod o hyd i yrfa mewn llawer o feysydd yn cynnwys:

Cyfrifeg, Amaethyddiaeth, Mecaneg Amaethyddol, Gweinyddu Busnes, Gofal/Gofal Iechyd Clinigol, Adeiladwaith, Gofal Plant, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Lletygarwch Peirianneg, Cerbydau Modur, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Rheoli Manwerthu a Chwaraeon.

 

Mae’n Wythnos Prentisiaethau!

Mae Wythnos Prentisiaethau yn ddathliad sy’n para am wythnos ac a gynhelir yn flynyddol er mwyn dathlu prentisiaethau a’r gwerth y maen nhw’n eu cynnig i gyflogwyr a dysgwyr ledled Cymru. Ei nod yw taflu goleuni ar waith gwych prentisiaid, gan dynnu sylw at y buddion niferus y mae prentisiaid yn cynnig i fusnesau.

Bydd Grŵp Colegau NPTC yn dathlu’r wythnos trwy ein sianeli cymdeithasol ond hefyd yn cynnal digwyddiad rhithwir ar ddydd Iau 11 Chwefror rhwng 4 pm a 6pm i unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am sut mae prentisiaethau’n gweithio a sut y gallant fod yn allweddol i’ch gyrfa ddelfrydol!

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw, chwiliwch Prentisiaethau Grŵp NPTC nawr!

 

Academi Sgiliau Cymru

Mae Academi Sgiliau Cymru yn brif ddarparwr Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Consortiwm o 8 partner, gan gynnwys Grŵp Colegau NPTC, mae Academi Sgiliau Cymru yn cynnig dysgu o ansawdd uchel a darpariaeth hyblyg i gyd-fynd ag anghenion sgiliau unigol pobl ifanc, y di-waith a gweithwyr presennol. Mae adeiladu partneriaethau cryf ac effeithiol gyda chyflogwyr yn caniatáu i Academi Sgiliau Cymru gefnogi datblygiad datrysiadau busnes.

Trwy gydol Wythnos Prentisiaethau 2021 byddwn yn taflu goleuni ar y partneriaid eraill yn Academi Sgiliau Cymru i arddangos yr amrywiaeth o yrfaoedd a phrentisiaethau a gynigir ar draws Cymru.