#NAW2021 – Cadw Dannedd Y Genedl Yn Iach!

Mae Learn Kit Ltd yn un o wyth partner yn Academi Sgiliau Cymru ac mae’n gwmni hyfforddi, sy’n gweithredu ledled Cymru, ac yn arbenigo mewn Nyrsio Deintyddol.

Mae cychwyn ar raglen brentisiaeth gyda Learn Kit Ltd yn golygu cymryd rhan mewn hyfforddiant, datblygiad a rhaglenni strwythuredig fel y Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol, lle cewch gyfle i arddangos y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn Nyrsio Deintyddol trwy aseiniadau a farciwyd, adeiladu portffolio o dystiolaeth ac ychydig o arholiadau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill cymwysterau sgiliau hanfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fel llawer o sefydliadau eraill, bu’n rhaid i Learn Kit Ltd addasu ei ffyrdd o weithio i sicrhau bod hyfforddiant a chefnogaeth o ansawdd uchel yn parhau i gael eu darparu i’r nifer o ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol.

Maent wedi bod yn hynod lwcus i allu parhau i weithio gyda myfyrwyr a’u deintyddfeydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda llawer yn cwblhau eu cymwysterau er gwaethaf y cyfyngiadau a roddwyd ar waith oherwydd pandemig Covid-19.

Mewn gwirionedd, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â nifer gyson o newydd-ddyfodiaid gyda nyrsys deintyddol dan hyfforddiant yn ymuno â’r rhaglen yn rheolaidd. Gymaint felly, maent wedi gallu ehangu’r tîm a chymryd aelodau newydd o staff i helpu i ddelio â’r gofynion.

Yn hanesyddol, cyflwynwyd y cymhwyster trwy ymweliadau â deintyddfeydd, tiwtorialau mewn swyddfeydd a gwersi, ynghyd â mynediad o bell i’r llwyfannau dysgu a ddefnyddiwn. Yn ddiweddar, mae Learn Kit Ltd wedi symud i ffwrdd o bortffolios papur gan ddefnyddio llwyfannau dysgu ar-lein yn eu lle.

Mae Jane Harwood, swyddog hyfforddi nyrsys deintyddol o Learnkit yn esbonio

“Roedd pandemig Covid-19 yn golygu ein bod wedi gorfod newid ac addasu i ganllawiau newydd a osodwyd gan City and Guilds, y corff dyfarnu, yn ogystal â chanllawiau iechyd cyhoeddus a deddfwriaeth y llywodraeth. Mae Learn Kit Ltd wedi croesawu’r heriau y mae wedi’u hwynebu ac wedi defnyddio dysgu o bell.

“Yn y gorffennol byddai ymrestru wedi digwydd yn neintyddfa’r dysgwr ond nawr, mae gennym system ar waith sy’n caniatáu i’r broses gofrestru ddigwydd o bell, gan gadw’r asesydd, y dysgwr a staff y ddeintyddfa yn ddiogel.”

“Mae rhai o’r dysgwyr sydd wedi dod ar y rhaglen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi rhywfaint o adborth ar eu profiad nhw o ddysgu o bell.”

“Mae dysgu yn ystod y pandemig yn anodd, peidio â mynd i’r coleg a methu â chwrdd ag aseswyr ac aseswyr yn methu â dod atom i gwblhau gwaith. Mae’n dda gwybod eich bod yno i gael cyngor, cyfarwyddyd a sgwrs os ydym yn cael unrhyw anawsterau fodd bynnag,  ac rydym yn dal i symud ymlaen ar y cwrs ac nid yw COVID-19 wedi ein cadw lle’r oeddem pan ddechreuon ni.”

“Mae dysgu o bell wedi bod rhywfaint yn anodd. Mae’r agwedd o astudio yn eich amser eich hun yn wych ond gall fod yn anodd os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen arweiniad arnoch oherwydd efallai y byddwch yn gwneud eich dysgu ar adegau anghymdeithasol. Mae fy nhiwtor wedi bod yn wych a does gen i ddim ond canmoliaeth iddi. Mae fy ngwaith yn cael ei farcio’n brydlon gyda’r diwygiadau angenrheidiol wedi’u gwneud. Rwyf bob amser yn gallu trafod unrhyw faterion neu anawsterau gyda hi. Byddai’n braf cwrdd â dysgwyr eraill a thrafod y cwrs gyda nhw, felly mae hwn yn faes arall sy’n anodd i mi.”

“Mae dysgu o bell yn ystod y pandemig wedi bod yn wahanol ond yn ddefnyddiol iawn. Gallaf gysylltu â chi os wyf yn ansicr am unrhyw beth ac rwy’n gwybod eich bod yno gydag unrhyw gyngor/help gyda llyfrau gwaith.”

“Rwyf wedi canfod y profiad o weithio o bell drwy’r pandemig yn ddefnyddiol iawn ac mae’n well gen i hynny. Rwy’n teimlo fy mod i’n cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnaf ac os ydw i’n cael unrhyw drafferth rydych chi’n ateb fy e-byst mor gyflym. Rwy’n credu ei fod wedi bod yn ffordd dda o ddysgu.”