Mae Gan Goleg Bannau Brycheiniog Y Rysáit Ar Gyfer Llwyddiant!

Mae llyfr coginio tra wahanol yn cipio calonnau a stumogau’r gymuned yn Aberhonddu – mae hyd yn oed Dan Lydiate, y chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi gwirioni.

Mae cyn-fyfyriwr chwaraeon a Chymrawd Coleg Bannau Brycheiniog, wedi ychwanegu ei gymorth at y prosiect cymunedol, er mawr foddhad i staff y coleg sydd y tu ôl i’r fenter.

Mae’r Coleg yn gobeithio magu awch am y llyfr, sy’n cynnwys ryseitiau blasus a roddwyd gan y rhai sy’n gysylltiedig â’r gymuned, a’i werthu i godi arian at achosion da lleol gan gynnwys Banc Bwyd Aberhonddu a Chanolfan Sant Ioan.

Camodd y blaenasgellwr Dan Lydiate, a gafodd ei alw yn ôl i garfan Cymru i chwarae yn erbyn Iwerddon, ymlaen a darparu rysáit flasus ar gyfer dim llai na Chawl Cig Eidion bras. Mae’r MS lleol a Gweinidog Addysg cyfredol Cymru, Kirsty Williams hefyd wedi bod yn ddigon caredig i gefnogi’r prosiect hwn.  Ynghyd â’i theulu, maent wedi cytuno a chyfrannu ffefryn cartref, sy’n sbarduno llawer o atgofion melys iddynt a chysylltiad â’r Unol Daleithiau.  Mae’r rysáit ‘Sloppy Joe’ yn bendant yn un i edrych amdani!

Jo Howells, swyddog Addysg Oedolion a Chymunedol a Sara Miles, Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu yng Ngholeg Bannau Brycheiniog sydd y tu ôl i’r prosiect, gan weithio’n agos gydag Alix Miller, Gweithiwr Cymunedol Canolfan St Ioan a Tracy Parry, sy’n rhedeg Banc Bwyd Aberhonddu.

“Yr egwyddor y tu ôl i’r prosiect yw gweithio ar y cyd i gynhyrchu llyfr coginio sy’n cynnwys cyfraniadau o bob rhan o ardal Aberhonddu,” meddai Jo.

“Ein man cychwyn oedd uno tri sefydliad, sef Coleg Bannau Brycheiniog (Rhan o Grŵp Colegau NPTC), Canolfan St Ioan (a’r Prosiectau Llesiant) a Banc Bwyd Aberhonddu. Roedd unigolion a busnesau lleol eraill yn digon caredig i gymryd rhan a thyfodd y prosiect gyda chyfraniadau’n cael eu rhoi,” ychwanegodd Jo.

Pan fyddant wedi’u cwblhau bydd y llyfrau’n cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog a’u hargraffu gan y Coleg cyn eu bod ar gael i’w gwerthu. Bydd yr elw o’r gwerthiannau yn mynd at y prosiectau cymunedol i gefnogi’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig ymhellach.

“Bydd yr elw yn mynd at achosion gwerth chweil,” ychwanegodd Sara.  “Rydyn ni’n gobeithio cael y llyfr wedi’i gwblhau erbyn y Gwanwyn. Rydyn ni wir eisiau diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i gyfrannu at y llyfr. Ni allem fod wedi ei wneud heb yr holl gefnogaeth.”

Os hoffech chi gyflwyno rysáit, cysylltwch â: sara.miles@nptcgroup.ac.uk neu joanne.howells@nptcgroup.ac.uk

Pic Cap: Yn chwarae dros y Gweilch, y cyn-fyfyriwr Coleg Bannau Brycheiniog Dan Lydiate a gyfrannodd at y llyfr. Llun wedi’i gyflenwi gan Huw Evans Picture Agency.

Dechreuwyd banc bwyd Aberhonddu yn 2014 gan eglwysi lleol a grwpiau cymunedol, yn gweithio gyda’i gilydd tuag at atal newyn yn ein hardal leol. Mae bellach wedi’i leoli yng Nghanolfan Deulu Sant Ioan. Mae’r banc bwyd yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o asiantaethau lleol fel Mind Aberhonddu, a Chanolfan Cynghori Aberhonddu. Mae cleientiaid yn ymweld o’r ardal gyfagos hefyd. Mae’n dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth ac mae eu rhestrau siopa yn cael eu postio ar facebook ac ar eu tudalen we. Maent yn ddiolchgar i gymryd eitemau bwyd nad ydyn nhw’n ddarfodus ac nad ydynt wedi dyddio na’u hagor. Cyswllt: info@brecon.foodbank.org.uk

Mae Canolfan Deulu Sant Ioan yn Ward Sant Ioan ac mae ei phrosiectau yn ymdrechu i ysgafnhau cost bwyta’n iach a chefnogi’r gymuned leol trwy’r prosiect llesiant, gan gynnwys clwb cinio, cydweithfa fwyd, prosiect gardd a chlybiau coginio. Mae’n gweithio’n agos gyda Banc Bwyd Aberhonddu ac elusennau lleol eraill i gefnogi rhannau’r gymuned sy’n agored i niwed. Cyswllt: stjohns@faithinfamilies.wales Ffôn: 01874 611723